Llwybr Treftadaeth Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr hanes hir a diddorol.
Cewch archwilio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr trwy ddilyn y Llwybr Treftadaeth hwn, sy’n mynd â chi ar daith i ddarganfod mwy am rai o adeiladau, digwyddiadau hanesyddol a chymeriadau lleol lliwgar y dref.
Cewch ddarganfod sut y gwnaeth y dref godi arian i fabwysiadu rhai o longau’r llynges gan gefnogi ymdrech yr Ail Ryfel Byd, pam fod Stryd y Capel yn cael ei hadnabod yn lleol fel y ‘Lôn Wyddelig’ a pha stryd yw’r hynaf yn y dref yn ôl y sôn.
Sganiwch y codau QR ar hyd y llwybr i gael mynediad i'r fersiwn digidol rhyngweithiol ar-lein o'r map. Pigwch i fyny map o leoliadau o amgylch Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr, Neuadd y Dref Pen-y-bont ar Ogwr, Tŷ Carnegie, Swyddfeydd Dinesig, Tŷ Sant Ioan. Cewch brofi treftadaeth Pen-y-bont ar Ogwr, y doir â hi’n fyw â geiriau a lluniau i fynd â chi yn ôl mewn amser i ddarganfod gorffennol cyfoethog y dref.






.jpg)