
Ynghylch
Sefydlwyd Capel Bedyddwyr Cymraeg gwreiddiol Ruhamah ym 1808 mewn hen ysgubor yn agos at Gastell Castellnewydd. Parhaodd i fod yn fan addoli tan 1890, ac erbyn hynny roedd y gynulleidfa wedi tyfu ac nid oedd y safle'n ddigon canolog. O ganlyniad i hyn, symudodd y Capel i Stryd Wyndham ar dir a roddwyd gan Iarll Dwnrhefn.
Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r Ruhamah gwreiddiol ym 1894 gan adael dim ond y fynwent fach a oedd yn cynnwys trigolion ymadawedig o'r ardal gyfagos yn bennaf. Nid oedd gan Gapel newydd Ruhamah newydd fynwent, a defnyddiwyd yr hen fynwent fach nes nad oedd mwy o le. Oddeutu 1994, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Ogwr brosiect cadwraeth i adfer y fynwent gan ei bod mewn cyflwr adfeiliedig. Ers hynny, mae wedi cael ei chynnal a'i chadw'n flynyddol mewn cyflwr rhesymol.
Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yw ceidwad y safle hwn.



