Heb ganfod eitemau.

Gwesty’r Wyndham Arms

© Cymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch

Ynghylch 

2

Adeilad Rhestredig Gradd II yw Gwesty’r Wyndham Arms. Tafarn coets fawr ydoedd o 1792 ac mae tystiolaeth bod yr eiddo’n ymgorffori rhannau o strwythur hŷn. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio nid dim ond ar gyfer coetsis ond hefyd fel llys a charchar. Fe’i henwyd ar ôl y teulu Wyndham a hanai o Norfolk (adwaenid eu hystâd deuluol fel Wymondham) ac a ymgartrefodd yng Nghastell Dunraven, Southerndown, ym 1642. Daethant yn deulu amlwg a dylanwadol, gan gynhyrchu dau Aelod Seneddol dros y rhanbarth (Thomas Wyndham AS rhwng 1789 ac 1814 ac Edwin Wyndham-Quin AS rhwng 1837 ac 1851). Ffurfiodd y teulu gynghrair trwy briodas (rhwng Windham Henry Quin a Caroline Wyndham ym 1810) gydag Ieirll Dwnrhefn (a Mount-Earl yn Iwerddon).


Mae Gwesty'r Wyndham Arms yn adeilad mewn arddull Sioraidd, gyda siâp anarferol sy'n cwmpasu'r safle ar y gornel rhwng Maes Dwnrhefn, Stryd Elder a Stryd y Groes. Mae gan yr adeilad sawl elfen ddylunio arbennig gan gynnwys y wal grom ar Faes Dwnrhefn a phrif fynedfa / porth yr adeilad. Mae’r rhain mewn arddull Dysganaidd gyda dwy golofnig y naill ochr a’r llall i'r drws a phalis gwyn uwchben yn ffurfio balconi crwm. Yma, ar un adeg (nid yw'r dyddiad yn hysbys), y byddai canlyniadau etholiadau’n cael eu darllen. Roedd Gwesty'r Wyndham Arms yn fan cyfarfod poblogaidd i grwpiau a chymdeithasau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n dal i fod felly. 

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio