
Ynghylch
Mae Tŷ Sant Ioan, sydd hanner ffordd i lawr Bryn Castellnewydd, yn dyddio’n ôl i tua 1511 ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II*. Nid yw pwrpas gwreiddiol yr adeilad yn glir – gallai fod wedi bod yn Eglwysty (er bod eglwys a ficerdy eisoes yn bodoli ymhellach i fyny'r bryn ar yr adeg y codwyd Tŷ Sant Ioan), yn hosbis Ganoloesol (man seibiant i bererinion) neu, yn syml, yn dŷ bonedd. Roedd dau blac carreg sylweddol wedi’u lleoli ar flaen yr adeilad yn wreiddiol; roedd gan y rhain sawl symbol crefyddol arnynt, o bosibl fel hysbyseb o ddiben yr adeilad ar adeg pan nad oedd llawer yn gallu darllen. Mae'r placiau bellach wedi'u lleoli o fewn yr eiddo.
Mae chwedl leol sy'n gysylltiedig â'r placiau addurniadol yn dangos bod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio gan, neu ei fod yn gysylltiedig â, Marchogion Sant Ioan (a elwir fel arall yn Sant Ioan o Gaer Salem). Fodd bynnag, hyd y dyddiad hwn, nid oes tystiolaeth bod yr Urdd Ganoloesol erioed wedi bod yn berchen ar yr eiddo.
Yn draddodiadol, roedd y meinciau cerrig 'lefel ddwbl' yn y porth ar gyfer y pererinion – a hwythau’n eistedd ar y cerrig uchaf gyda'u traed ar y rhai isaf tra bod y mynachod yn ymolchi ac yn golchi eu traed blinedig a brwnt yn ddefodol – fel y golchodd Crist draed ei ddisgyblion.
Mae'r adeilad hwn yn cadw llawer o'i nodweddion pensaernïol ac mae ar agor i'r cyhoedd ar ddau ddiwrnod bob mis – edrychwch ar eu gwefan i weld ar ba ddyddiadau ac amseroedd y mae ar agor stjohns-bridgend.org.uk



