Heb ganfod eitemau.

Yr Ysgubor Degwm

© Cymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch

Ynghylch 

12

Mae hen fapiau'n dangos lleoliad Hen Gastell yn lleoliad yr Ysgubor Degwm yn Rhan Ogleddol Heol Merthyr Mawr. Mae'r adeilad, y credir ei fod yn un o’r adeiladau hynaf sy’n goroesi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o bosib, yn ymgorffori rhan o waliau'r castell fel a awgrymwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent (GGAT), er nad yw hyn wedi'i brofi. Mae’r Ysgubor Degwm, a adwaenir hefyd fel Ysgubor Degwm Capel y Santes Fair neu Ysgubor Degwm Nolton, yn dyddio’n ôl i'r cyfnod Ôl-ganoloesol (1485-1750) gydag addasiadau tuag at ddiwedd y 18fed ganrif. Codwyd yr adeilad gyda waliau rwbel a manylion brics coch ar ochrau’r grisiau a’r mynedfeydd ym mhen deheuol yr adeilad ac uwchben y drws gorllewinol.


Roedd ysguboriau degwm yn cael eu defnyddio yn y canol-oesoedd i storio degwm a rhenti ar adeg pan oedd yn ofynnol i ffermwyr roi degfed rhan o'u cynnyrch i'r eglwys. Am y rheswm hwn roeddent yn aml wedi’u lleoli yn agos at eglwys neu reithordy. Roedd yr ysguboriau’n cael eu defnyddio i storio'r cnydau degwm dros y gaeaf. Roeddent yn tueddu i fod yn adeiladau mawr gan eu bod yn cael eu defnyddio i storio cnydau a gasglwyd o'r rhan fwyaf, os nad pob un, o'r ffermydd cyfagos; byddai eu maint hefyd yn dibynnu ar natur y ffermio yn yr ardal (h.y. pa un a oedd ffermio yn bennaf yn ffermio tir âr, ffermio da byw ynteu'n ffermio cymysg).


Byddai'r gofod mewnol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer storio'r cnwd a hefyd ar gyfer dyrnu (y broses o wahanu grawn o ŷd a chnydau eraill) a'r broses nithio (defnyddio gwynt i wahanu'r grawn o'r cibion). Yna byddai'r gwellt wedi'i ddyrnu’n cael ei storio yn yr ysgubor ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd a gwellt gwely anifeiliaid. Mae gan Ysgubor Degwm Pen-y-bont ar Ogwr sawl drws. Mae'r drws sydd wedi ei leoli ym mhen deheuol yr ysgubor ar ben grisiau cerrig yn awgrymu bod gan yr ysgubor groglofft. O dan y drws hwn mae dwy ffenestr wedi'u lleoli o fewn mynedfa sydd wedi’i chau â cherrig, a allai fod wedi cael ei defnyddio fel tyllau fforchio y byddai'r cnwd wedi cael ei fforchio drwyddynt i’w roi i mewn yn yr ysgubor. Byddai ysguboriau'n aml yn cynnwys tyllau awyru i adael aer drwyddynt gan felly helpu i atal cynnyrch wedi'i storio rhag pydru. Gellir gweld twll awyru bychan ym mhen deheuol Ysgubor Degwm Pen-y-bont ar Ogwr. Credir y byddai cynllun mewnol yr ysgubor wedi bod yn debyg i ysguboriau hysbys eraill gyda'r llawr dyrnu yng nghanol y strwythur, a chilfachau storio wedi'u lleoli yn agos at y llawr dyrnu. Mae gan yr ysgubor ychwanegiad bach ar ei hochr orllewinol a allai fod wedi cael ei ddefnyddio i gartrefu offer neu dda byw. Mae'r adeilad wedi cael ei wneud yn adeilad Rhestredig Gradd II yn ddiweddar.

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio