
Ynghylch
Roedd, ac mae, Maes Dwnrhefn yn ganolbwynt pwysig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 10-12 Maes Dwnrhefn yn adeilad tirnod sy'n dyddio o'r 1830au. A hwnnw bellach yn Adeilad Rhestredig Gradd II, mae'r adeilad yn strwythur dramatig a ddyluniwyd mewn arddull Baladaidd glasurol ac yn enghraifft drawiadol o bensaernïaeth Sioraidd. Fe wnaed gwaith adfer sylweddol i’r adeilad rhwng 2005 a 2010, gyda chyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn adfer y manylion cerrig trawiadol a’r pediment sgolpiog ei siâp (yr adran addurnol ar dop yr adeilad) a chreu ffrynt siop traddodiadol newydd ar lefel y llawr gwaelod. Mae gan yr adeilad waliau gwyrdd unigryw, manylion peintiedig gwyn ar y llawr cyntaf a'r ail lawr ac mae'n ymgorffori nodweddion pensaernïol fel colofnigau wedi'u sgwario ar gorneli'r adeilad, ffenestri codi aml-gwarel a bracedi sgrôl addurnol.
Datgelwyd arwydd wedi'i beintio â llaw ar ochr yr adeilad sy'n arwain at yr Hen Bont Gerrig yn ystod y gwaith adfer ac mae hwn wedi cael ei adael yn y golwg er diddordeb hanesyddol. Yn wreiddiol, roedd rhan o'r enw 'Loosemore' i’w gweld ar yr arwydd ond ers hynny mae wedi pylu i ddatgelu arwydd pellach oddi tano sy'n ymddangos fel pe bai'r enw 'Hancocks' arno.



