
Ynghylch
Agorwyd Ysbyty’r Bwthyn gyntaf ym 1896. Yn wreiddiol, roedd yn cynnwys dwy adain fach ar gyfer cleifion ac fe dalwyd amdano i raddau helaeth gan Bwyllgor yr Eisteddfod ac Iarll Dwnrhefn. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd angen lle ychwanegol a thuag at ddiwedd y 1920au symudwyd yr ysbyty i dŷ mawr o'r enw Llys Fitzhamon yn Heol Merthyr Mawr, ger yr Ysgubor Degwm. Yna daeth yr adeilad gwreiddiol yn Glinig Twbercwlosis.
Mae'r adeilad, sydd wedi'i leoli ar gornel Stryd Nolton a Heol y Llys, ychydig y tu ôl i Ffynnon Yfed Goffa Randall (9) wedi'i ddylunio yn arddull Edwardaidd y Frenhines Anne. Mae prif ran yr adeilad yn ddau lawr o ran uchder a phob ochr iddo mae anecs un llawr. Mae drychiad blaen yr eiddo wedi'i adeiladu o dywodfaen llwydwelw gyda manylion addurniadol brics lliw coch a thywyll ar y band uwchben y ffenestri. Mae gan yr adeilad 'do pen siyrcin' unigryw – mae hyn yn disgrifio to sy'n cyfuno dyluniadau to talcen a slip, gan ddarparu ymddangosiad sy’n ddiddorol yn esthetig – ynghyd â bargod browngoch.



