Heb ganfod eitemau.

Cofeb Ryfel

© Cymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch

Ynghylch 

1

Adeiladwyd y Gofeb Ryfel Restredig Gradd II ym 1921 ac mae wedi'i lleoli o fewn Maes Dwnrhefn. Fe'i dyluniwyd gan Walter Crook ac fe’i cerfluniwyd gan Messrs H. H. Martyn and Co Ltd o Cheltenham. Mae'r gofeb wedi'i gwneud o garreg Portland gydag obelisg pigfain sy’n cynnwys ffigwr Britannia. Uwchlaw'r ffigwr mae'r symbolau ar gyfer aberth a buddugoliaeth – croes wedi'i hamgylchynu gan flodeubeth o ddail llawryf. Crëwyd y gofeb i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918), ac mae eu henwau wedi'u cynnwys mewn placiau ar ochr y gofeb.

Mae rhyfeloedd diweddarach hefyd wedi’u cofnodi ar fôn ac ochrau'r cerflun. Mae'r rhain yn cynnwys yr Ail Ryfel Byd (1939-1945), gydag ychwanegiad diweddarach at un o'r placiau ar gyfer J. Evans Malaya 1955. Mae wrn blodau wedi’i wneud o garreg, sydd wedi'i leoli ar fôn y gofeb, wedi'i gysegru i Adran Fenywod y Lleng Brydeinig Frenhinol, dyddiedig 1938. Mae plac coffa ar y cyd wedi'i leoli ar fôn y gofeb ar gyfer aelodau'r Llynges Fasnachol a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae pedwar plac cerrig llai sy'n cofio pedwar aelod o’r lluoedd arfog a gollodd eu bywydau yn ystod gwrthdaro mwy diweddar gan gynnwys Rhyfel y Falklands, Rhyfel Irac ac yn Afghanistan. Mae eu henwau, eu hunedau a blwyddyn eu marwolaeth wedi'u hysgythru i mewn i’r placiau. Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yw ceidwad y safle hwn.

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio