Heb ganfod eitemau.

Twristiaeth Fusnes

Cwrdd yn Sir Pen-y-bont

Sgrolio i lawr Tudalen
Pen-Y-bont

O leoliadau glan môr i leoliadau hanesyddol, mae gan Sir Pen-y-bont ar Ogwr y cefndir perffaith ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Rydym yn cynnig 

  • Cyrchfan compact, ar stepen drws Caerdydd
  • Lleoliadau mawr, bach a defnydd neilltuedig
  • Cysylltiadau trafnidiaeth hawdd
  • Profiadau unigryw, fforddiadwy
  • Golygfeydd godidog o'r arfordir a'r ardaloedd gwledig

Darganfyddwch pa mor syml yw dod â'ch cyfarfod , cynhadledd neu drip cymhelliant nesaf i Sir Pen-y-bont ar Ogwr - cysylltwch â ni heddiw.

Ffordd droellog ac anghyfannedd drwy Gwm Ogwr
Blaen adeilad gwesty ar ddiwrnod heulog

Lleoliadau

Yn Sir Pen-y-bont, fe ddewch chi o hyd i'r lleoliad perffaith ar gyfer eich cyfarfod, cynhadledd neu drip cymhelliant nesaf ... o Bafiliwn eiconig y Grand ar lan y môr ym Mhorthcawl, a'r Best Western Heronston and Spa sydd wedi'i leoli'n gyfleus ychydig y tu allan i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, i westy swynol Coed-Y-Mwstwr, sef plasty Fictoraidd ar lechwedd goediog ychydig oddi ar yr M4, a gwesty rhestredig Gradd II Great House.

Profiadau

Mae ein harfordir a'n cefn gwlad godidog yn feysydd chwarae naturiol ar gyfer ystod o brofiadau ... o adeiladu tîm, rhaffau uchel, beicio cwad, pledu paent, syrffio, a mwy yn yr Adventures Outdoor Activity Centre, a thaflu bwyell, saethyddiaeth a byw yn y gwyllt gyda Bushcraft Adventures, i ddiwrnodau golff corfforaethol o'r radd flaenaf yn Pyle and Kenfig Golf Club, Clwb Golff Maesteg, a'r Royal Porthcawl Golf Club, sefun o'r cyrsiau golff gorau yn y byd!

Gweld profiadau

Menyw yn pytio ar grîn y twll golff