
Ynghylch
Mae Capel Hope yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi'i leoli ar gornel Gallt yr Orsaf a Heol y Dderwen. Paratowyd cynlluniau amlinellol ar gyfer eglwys newydd ar y safle hwn gan y pensaer lleol Philip J Thomas ym 1904. Adroddodd y Glamorgan Gazette fod 'safle ysblennydd wedi cael ei sicrhau ar Ystâd Dwnrhefn a chafwyd y telerau mwyaf hael....Mae'r capel yn groesffurf, gyda chroesfâu a siambr organ... mae'r dyluniad yn Gothig gyda ffenestri patrymog yn y tu blaen a bydd yr adeilad yn un urddasol' (Glamorgan Gazette, Chwefror 1904). Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1906 gan Mrs WJ. Lewis (yr aelod hynaf o'r gynulleidfa ar y pryd).
Adeiladwyd Capel Hope mewn arddull Diwygiad Gothig gyda naddiadau tywodfaen llwydwelw a wynebiadau wedi'u llwyd wedi’u bwyo. Mae drychiad blaen unigryw’r Capel yn cynnwys dau dyred polygonaidd o boptu i ffenestr batrymog geometrig fawr (mae hyn yn golygu bod y ffenestr wedi'i rhannu'n wahanol rannau gan ddarnau o gerrig). Ceir bwtresi grisiog bob ochr i’r drws canolog sydd â phen bwaog a drysau pren dwbl â cholfachau strapwaith. Adwaenir y ffenestri ym mlaen yr adeilad fel ffenestri lansed; ffenestri tal, cul yw’r rhain gyda bwa pigfain yn y top. Mae ffenestri'r llawr gwaelod ar Heol y Dderwen yn llawer llai addurnedig ac yn siâp hirsgwar. Mae tu mewn y Capel wedi'i gadw'n dda ac yn anarferol yn yr ystyr bod dyluniad yr oriel yn un 'cantilifrog' sy'n golygu nad oes colofnau ategol a bod yr oriel i bob pwrpas yn ysgubo o amgylch tu mewn yr eglwys.



