Heb ganfod eitemau.

Yr Hen Swyddfa Bost ac Adeiladau Cysylltiedig

Darparwyd y ddelwedd gan Lyfrgelloedd Awen

Ynghylch 

6

Ym 1892 yr oedd y sôn cyntaf am swyddfa bost ym Mhen-y-bont ar Ogwr, pan oedd wedi’i lleoli yn Adeilad Davies, ar gornel Stryd Caroline a Stryd y Frenhines. Symudodd y swyddfa bost yn ddiweddarach i gasgliad o adeiladau ger gorsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y rhain yn cynnwys hen Ddepo Faniau’r Swyddfa Bost ar Heol y Dderwen, y swyddfa ddidoli a oedd wedi'i lleoli ar Allt yr Orsaf a phrif adeilad y Swyddfa Bost ar Heol y Llys. Adeiladwyd Depo Faniau’r Swyddfa Bost yn wreiddiol fel Gorsaf Dân ym 1936 (mae cloch drydan fawr sydd ar ddrychiad blaen yr adeilad o bosibl yn ymwneud â'r swyddogaeth hon yn y gorffennol). Mae gan yr adeilad hefyd arfbais prin o eiddo Edward VIII ar ei ddrychiad blaen ac mae bellach yn adeilad rhestredig Gradd II fel adeilad cyhoeddus prin o gyfnod teyrnasiad Edward VIII.

Roedd staer droellog, lifft a llithren danfon bagiau post yn cysylltu adeilad y depo â swyddfa ddidoli a oedd wedi'i lleoli ar Allt yr Orsaf. Roedd y swyddfa ddidoli hithau yn ei thro wedi’i chysylltu â'r brif Swyddfa Bost ar Heol y Llys. Roedd y casgliad hwn o adeiladau’n cael eu defnyddio tan y 1970au pan adleolodd y Swyddfa Bost i'w lleoliad presennol ym Maes Dwnrhefn. Symudodd y swyddfa ddidoli a'r depo eu gweithrediadau i Heol Tremaen.

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio