
Ynghylch
Cyn Pen-y-bont ar Ogwr, roedd pentrefan o'r enw Nolton ar lan ddwyreiniol Afon Ogwr a Chastellnewydd, ystâd ffiwdalaidd â Chastell ac Eglwys Normanaidd, wedi'i lleoli ar y lan orllewinol. Roedd llwybrau o Nolton i Gastellnewydd yn croesi ar hyd amryw rannau o'r afon ac i fyny'r bryn. Yn y 15fed ganrif adeiladwyd pont, ac adwaenid y llwybr a arweiniai o Nolton at y bont yn ‘Stryd yr Ysgawen’, gan ei gwneud yn un o strydoedd hynaf Pen-y-bont ar Ogwr. Tyfodd marchnad yn fuan ger y bont, gan wneud Stryd yr Ysgawen yn un o'r llwybrau allweddol a oedd yn cysylltu ardaloedd cyfagos â'r farchnad a Chastellnewydd.
Cwblhawyd Tabernacl cyntaf yr Annibynwyr Cymraeg ym 1810 ar gornel Stryd yr Ysgawen a'r hyn a adwaenir bellach fel Stryd Adare. Ar un adeg roedd Neuadd y Tabernacl, a godwyd ym 1805, yn cael ei defnyddio fel ystafell ysgol. Mae hanes y Tabernacl yn tarddu’n ôl i godi’r Tŷ Cwrdd ym Mryn Castellnewydd.



