Heb ganfod eitemau.

The Jolly Brewer (The Riverside Tavern erbyn hyn)

© Cymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch

Ynghylch 

25

A hithau wedi cael ei hadeiladu yn y 1790au, nid yw Tafarn Glan yr Afon (sy'n adeilad Rhestredig Gradd II) wastad wedi bod yn dafarn. Tŷ rheolwr melin wlân ydoedd yn wreiddiol (gyda’r adeilad yn cael ei adnabod bryd hynny fel Cae'r Felin). Ym 1790, penderfynodd Cymdeithas Amaethyddol Morgannwg godi melin ym Men-y-bont ar Ogwr. Prynodd y Gymdeithas y dechnoleg ddiweddaraf hefyd – sef Peiriant Nyddu. Dyfeisiwyd y peiriant gwehyddu awtomataidd hwn, gyda'i ffrâm nyddu aml-werthyd, ym 1764 ac roedd yn un o'r datblygiadau allweddol wrth ddiwydiannu gweithgarwch gweithgynhyrchu tecstilau yn y Chwyldro Diwydiannol Cynnar. Mae’n debygol y byddai’r Peiriant Nyddu wedi cael ei osod yn y felin, er nad oes unrhyw gofnodion pellach o hyn ar ôl 1791. Roedd y felin wedi’i bwriadu i gymryd y gwlân crai o ffermydd lleol Sir Forgannwg trwy amryw brosesau a lleihau faint o deithio, masnach ac amser yr oedd yn ei gymryd i gynhyrchu edafedd a thecstilau. Roedd y felin hefyd wedi’i bwriadu i ysbrydoli eraill ledled y rhanbarth i ddatblygu cyfleusterau tebyg. Yn y pen draw, y gobaith oedd y byddai'r felin newydd yn galluogi ffermwyr Sir Morgannwg i werthu mwy o'u gwlân a'u brethyn gorffenedig am bris uwch. Roedd hysbysebion mynych yn cael eu rhoi yn y wasg leol i blant rhwng 10 a 14 oed ddod yn brentisiaid.


Parodd cyfadeilad y felin am 30 mlynedd ac ar ôl hynny cafodd yr adeiladau eu gwerthu i fusnes trin crwyn a'u troi'n danerdy (lle’r oedd crwyn anifeiliaid yn cael eu troi'n lledr) ac yna ym 1829 fe’i newidiwyd yn fragdy. 


Arhosodd Cae'r Felin ei hun yn gartref teuluol; roedd y meddianwyr yn cynnwys perchennog y bragdy, Thomas Lewis (roedd y teulu Lewis yn ddylanwadol iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y 1840au) ac yna'r bragwr a'r masnachwr gwin Robert Henry Stiles ym 1871. Mae Cyfrifiad 1881 yn nodi bod gan Stiles wraig ac un ferch adeg y cyfrifiad yn ogystal â dau was – Ann Davis (cogyddes tŷ) a L. Roberts (morwyn tŷ).


Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adwaenid yr eiddo fel Tŷ’r Bragdy. Erbyn 1914 roedd Tŷ’r Bragdy ei hun wedi ehangu, ynghyd ag adeiladau allanol newydd. Credir bod y tŷ, rywbryd oddeutu 1920, wedi cael ei droi'n dafarn. Yn y 1970au ailenwyd y dafarn yn The Jolly Brewer a heddiw fe'i hadwaenir fel The Riverside Tavern. Mae'r ffordd, a'r cae rygbi (y cae athletau gynt) tu ôl i'r eiddo, ill dau wedi cymryd eu henw o'r tŷ a'r dafarn

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio