Heb ganfod eitemau.

Datganiad Hygyrchedd

Nodweddion hygyrchedd

Iaith glir

Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn iaith glir ac yn osgoi jargon lle bo'n bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Strwythurau penawdau

Mae'r wefan yn defnyddio strwythurau penawdau syml a ddylai ei gwneud yn haws i'w llywio, yn enwedig i bobl â darllenwyr sgrin.

Safonau'r we

Rydym yn gwneud ein gorau i gydymffurfio â safonau côd megis y rhai sy'n ymwneud â CSS a HTML, a chanllawiau W3C WAI.

Dogfennau

Rydym yn ceisio gwneud ein dogfennau mor hygyrch â phosibl, ond weithiau ni ellir gwneud hyn. Os oes arnoch angen dogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i'w darparu.

Nodweddion tudalen newidiol

Maint y testun

Os gwelwch fod maint testun diofyn y safle yn rhy fach neu fawr, gallwch ei newid gyda swyddogaeth maint testun mewnol eich porwr.

I newid maint y testun gan ddefnyddio eich porwr:

  • Defnyddiwch y ddewislen 'Gweld' ac yna dewis 'Maint Testun' yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
  • Defnyddiwch y ddewislen 'Gweld ac yna dewiswch 'Maint Testun ', yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch yr opsiynau 'Gweld' ac yna 'Gwneud Testun yn Fwy', yn Safari
  • defnyddiwch y dewislenni 'Gweld' a 'Steil', ac yna 'Modd Defnyddiwr ',yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen 'Gweld' ac yna 'Chwyddo Testun ', yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Gyda llygoden olwyn, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy ddal y Rheolaeth neu'r fysell Gorchymyn i lawr a throi'r olwyn. Mewn rhai porwyr, gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio Rheolaeth neu Orchymyn a'r bysellau + neu -.

Arddull testun a lliw

Gallwch hefyd nodi'r arddulliau ffont, lliwiau, yn ogystal â lliwiau'r blaendir a'r cefndir. Mae'r ffordd rydych chi'n gwneud hyn yn amrywio o borwr i borwr, ac mae angen i chi:

  • ddefnyddio 'Offer (Tools)' yn y 'Dewisiadau Rhyngrwyd', gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
  • defnyddio 'Offer' yn 'Dewisiadau' o dan 'Cynnwys', yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch yr opsiynau 'Gweld' ac yna 'Gwneud Testun yn Fwy', yn Safari
  • defnyddio'r ddewislen 'Gweld' ac yna 'chwyddo', yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen 'Gweld' ac yna 'Chwyddo Testun', yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Dogfennau

Mae'r canlynol yn berthnasol i gyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron, ond nid tabledi na dyfeisiau symudol.

Dogfennau pdf: bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dangos y rhain yn awtomatig. Os oes angen y meddalwedd arnoch, gallwch lawrlwytho'r darllenydd PDF am ddim o wefan Adobe.                                

Cynnwys amlgyfrwng

Mae fideos ein gwefan wedi'u hymgorffori trwy'r wefan YouTube. Oherwydd hyn, efallai na fydd rhai nodweddion hygyrchedd ar gael, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Ewch i dudalennau help YouTube i gael gwybodaeth am gael mynediad i fideos gyda darllenwyr sgrin.

Cynnwys wedi'i ymgorffori

Mae ein gwefan yn defnyddio cynnwys a ymgorfforwyd o wefannau eraill. Gall hyn leihau hygyrchedd wrth geisio cael mynediad i gynnwys yn uniongyrchol drwy'r bysellfyrddau neu dechnoleg darllenydd sgrin. Os yw'r mater hwn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu helpu lle'n bosibl, a datrys unrhyw broblemau.