
Ynghylch
Credir bod dau gastell wedi bodoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gydag un (a elwir yn Hen Gastell) wedi’i leoli o bosibl o fewn ardal Heol Merthyr Mawr (er nad oes olion wedi'u canfod yma) a’r ail (Castellnewydd) ar ben darn uchel o dir yn edrych dros Afon Ogwr.
Credir bod Castellnewydd wedi cael ei sefydlu gan Robert Fitzhamon, Barwn Caerloyw. Ychydig sy’n weddill o’r amddiffynfa gylch o bridd a phren, sef amddiffynfa wreiddiol y castell. Disodlwyd hon yn y 1180au pan adeiladwyd gorthwr cerrig. Roedd hwn wedi’i briodoli i William FitzRobert, Iarll Caerloyw. Adeiladwyd y llenfur mawr a'r gragen bolygonaidd sydd yn dal i’w gweld heddiw yn fuan wedyn. O ystyried bod y strwythurau diweddarach o safon uwch ac wedi'u hadeiladu o garreg nadd credir mai'r Brenin Harri II oedd yn gyfrifol am eu hadeiladu. Roedd y brenin wedi cymryd rheolaeth ar y castell yn dilyn gwrthryfel Cymreig Morgan ap Caradog ym 1183-4. Ychwanegwyd dau dŵr diweddarach at y castell. Bu’r castell yn newid perchennog rhwng teuluoedd brenhinol ac arglwyddi lleol trwy gydol yr ychydig ganrifoedd nesaf tan yr 16eg ganrif pan droswyd y castell yn gartref Tuduraidd.
Mae'r castell heddiw mewn cyflwr adfeiliedig, ond mae ei fawredd sydd wedi pylu i’w weld o hyd. Mae'n un o'r enghreifftiau gorau o gastell o'r 12fed ganrif yng Nghymru. Goroeswr prin yw'r bwa pengrwn Romanésg gyda cholofn Ïonaidd bras yn sownd wrtho sy'n fframio'r drws i mewn i'r castell. Ni wyddys am unrhyw addurniad arall o'r math yma ym Morgannwg. Gweler gwefan Cadw am y dyddiadau ac amseroedd pan fo ar agor: https://cadw.gov.wales/visit/places-to-visit/newcastle-bridgend



