
Ynghylch
Yn wreiddiol roedd Eglwys y Santes Fair, Nolton (a elwir hefyd yn Eglwys Nolton) yn gapel anwes i blwyf y Santes Fair yn y Coety ac mae'n adeilad Rhestredig Gradd II. Adeilad crefyddol wedi’i leoli i ffwrdd o brif eglwys y plwyf oedd capel anwes, a allai fod yn agosach na'r brif eglwys ar gyfer y plwyfolion hynny a oedd yn byw gryn bellter i ffwrdd. Cwblhawyd yr eglwys bresennol ym 1887 a hi yw'r drydedd eglwys o leiaf i gael ei hadeiladu yn y lleoliad hwn; roedd yr ail eglwys, a adeiladwyd yn y 1830au, yn sefyll ar bwys y bwa yn y fynwent bresennol. Bu’r eglwys bresennol yn cael ei chymharu â 'chath Manaw' (brîd o gath heb gynffon) am ddegawd, cyn i feindwr unigryw’r eglwys gael ei ychwanegu at y tŵr. Adeiladwyd Eglwys Nolton yn yr arddull Saesnig Gynnar mewn cynllun croesffurf gydag ystlysau croes. Fe'i hadeiladwyd o feini trwynbwl gyda dresin o garreg rywiog.
Mae gan y drychiad blaen, sy'n wynebu'r gorllewin, dŵr a meindwr polygonaidd tal (gyda cheiliog y gwynt ar y top) ar ei gornel ogleddol. Mae rhan ganolog y drychiad blaen yn cynnwys porth bargodol gyda phen pigfain a ffrâm drws fwaog mewn arddull Romanésg sy'n cynnwys sawl trefn o fwâu a phileri. Ar ben y pileri mae mowldinau blodeuol. Uwchben y porth canolog mae pedair ffenestr lansed (ffenestri tal, cul â phen bwaog) gyda ffenestr gylchol fach uwchben y ddwy ffenestr ganolog.



