Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr
Lansiwyd gwefan newydd Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr i helpu hyrwyddo'r môr, copaon a golygfeydd o'r fwrdeistref sirol wrth i rannau o'r sector twristiaeth a lletygarwch baratoi i ailagor.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr newydd gyhoeddi gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer y sir gyda lansiad brand a gwefan y cyrchfan. Mae gwefan newydd Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr yn hyrwyddo môr, copaon a golygfeydd y fwrdeistref sirol, yn cynnwys gweithgareddau, llety a lleoedd o ddiddordeb.
Bydd Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr yn disodli Bridgend Bites a lwyddodd i drawsnewid y canfyddiadau o'r cyrchfan gan roi sylw i'w cryfderau niferus, o golff a chwaraeon dŵr i amrywiaeth a harddwch yr arfordir a chefn gwlad.
Mae logo newydd yn ffurfio rhan o'r brand cyrchfan newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Mae dyluniad y logo yn dangos croestoriad o'r Fwrdeistref Sirol. Mae'n cynnwys bryniau Cwm Llynfi, Garw ac Ogwr a Neuadd y Dref Maesteg, yr Hen Bont hanesyddol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Afon Ogwr a'r morlin hardd.
Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Gyda thros 900 o Aelodau, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel llais torfol i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ers 2009 Mae wedi cynrychioli cwmnïau o bob maint ar draws pob sector. Mae'r Fforwm yn mynd ati i ymateb i faterion a datblygiadau lleol, ac yn rhoi'r canlynol i'r Aelodau:
- llais torfol
- cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio a rhannu arfer gorau
- rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau busnes
- cyrsiau hyfforddi
- cyfleoedd am nawdd
- Gwobrau Busnes blynyddol
Parth Busnes
Mae'r adran hon o wefan y Cyngor yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau lleol, gan gynnwys:
Economi Ymwelwyr
Cymorth Busnes
Trefnu Digwyddiad
Arwyddion traffig ar gyfer Cyrchfannau Twristaidd
Rhestru eich busnes ar y wefan hon
Rydym yn awyddus i gynnwys llety, atyniadau a gweithgarwch perthnasol ar y wefan hon i arddangos yr hyn y mae'r Sir yn ei gynnig i ddarpar ymwelwyr. I gael gwybod mwy, cysylltwch â'n Swyddog Rheoli Cyrchfannau, Alice Brown.
01656 815332
alice.brown@bridgend.gov.uk
Mae twristiaeth yn tyfu ym Mhen-y-bont
Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ôl STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor), daeth y sector â £347m i'r fwrdeistref sirol yn 2018. Roedd hyn yn cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i 4,041 o swyddi llawn amser. Os ydych yn rhedeg busnes twristiaeth neu'n ystyried dechrau un, mae ein Swyddog Rheoli Cyrchfannau, Alice Brown, yn gallu cynnig cyngor.
01656 815332
alice.brown@bridgend.gov.uk