
Ynghylch
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu dinasoedd, trefi a phentrefi ledled y DU yn codi arian ar gyfer yr ymdrech rhyfel trwy gynnal 'Wythnosau Llongau Rhyfel' a defnyddio'r arian a oedd yn cael ei godi i 'fabwysiadu' llongau rhyfel, cludwyr awyrennau, criwserau a dinistrwyr. Unwaith y byddai swm penodol o arian yn cael ei godi byddai'r gymuned yn mabwysiadu llong ac yn cefnogi ei chriw. Cynhaliodd Pen-y-bont a'r Cylch ei Hwythnos Llongau Rhyfel rhwng 15 a 22 Tachwedd 1941 gan godi £300,000 (sef tua £10 miliwn yn arian heddiw!). Galluogodd hyn y dref i fabwysiadu H.M.S. Urge, H.M.S. Terror a Llong Dorpidos Fodur Ei Fawrhydi 47.
Bu gan y tair llong rolau amrywiol yn ystod y rhyfel. Roedd H.M.S. Terror, er enghraifft, yn llong dosbarth Erebus a wasanaethodd ym Môr y Canoldir, gan fod yn rhan o amddiffyn Malta rhag cyrchoedd awyr yr Eidal a chymryd rhan yn Ymgyrch Compass, yr ymosodiad Prydeinig yn erbyn Byddin yr Eidal yng Ngogledd Affrica. Suddodd ym mis Chwefror 1941 oddi ar arfordir Libya. Suddwyd Llong Dorpidos Fodur Ei Fawrhydi 47 gan danio yn Sianel Lloegr ar 17 Ionawr 1942, gyda'r holl griw yn cael eu cymryd yn garcharorion rhyfel. Cymerodd y llong danfor H.M.S. Urge ran mewn ugain o batrolau rhyfel yn ystod y rhyfel. Trawodd y tancer Eidalaidd Franco Martelli â thorpido gan ei suddo ac roedd yn rhan o amryw ymosodiadau eraill ar longau masnach fel rhan o'i rôl gyda'r llyngesan llongau tanfor 1af. Yn ystod ei phumed patrôl rhyfel, cariodd gyrchlu i lanio os yn bosibl ar Sisili a chyflawni cyrch dryllio trên; digwyddodd hyn yn llwyddiannus ym mis Mehefin 1941. Cafodd H.M.S. Urge ei suddo'n ddiweddarach – tybir iddi daro ffrwydryn oddi ar arfordir Malta ar 27 Ebrill 1942 – ac fe'i collwyd gyda phawb a oedd ar ei bwrdd (33 o aelodau o’r criw a phersonél). Ym mis Hydref 2019 darganfuwyd y llongddrylliad gan Mr Francis Dickinson, ŵyr pennaeth milwrol y llong, yr Is-gomander Tomkinson. Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gydnabod y safle’n swyddogol fel man gorffwys olaf H.M.S. Urge. Mae gwasanaethau coffa wedi digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer criw H.M.S. Urge, gan gynnwys yn fwyaf diweddar yn 2022. Cafodd y stensil ei gomisiynu gan Gyngor Tref Pen-y-bont a'i osod yn haf 2019 gan Nick Morgan (Nick y Peintiwr Arwyddion).



