
Ynghylch
Mae Capel Hermon yn adeilad rhestredig Gradd II sy'n dyddio'n ôl i 1862. Adeiladwyd y capel anghydffurfiol hwn yn arddull y Dadeni Eidalaidd ac fe’i hadeiladwyd i ddyluniad gan y pensaer capeli toreithiog, y Parch. Thomas Thomas o Landŵr. Mae ei ffasâd llofnod, fel a ddangosir yn yr achos hwn, yn cynnwys bwa enfawr sy'n ymestyn o'r ddaear i fyny i'r talcen. Roedd canol y 19eg ganrif yn gyfnod poblogaidd i bensaernïaeth glasurol, yn anad dim ar gapeli.
Roedd anghydffurfiaeth yn ymwneud â Christnogion Protestannaidd a oedd yn gwrthod cydymffurfio ag athrawiaeth, disgyblaeth neu arferion yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig (er enghraifft Annibynwyr, Sentars, Bedyddwyr a Methodistiaid). Cynyddodd anghydffurfiaeth Gymreig yn sylweddol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gydag anghydffurfiaeth yn prysur ddatblygu i fod yr opsiwn crefyddol a ddewisid gan ganran fawr o'r Cymry. Roedd yn gyffredin iawn mewn trefi diwydiannol dosbarth gweithiol ac mae llawer o addoldai yn dyddio’n ôl i'r cyfnod hwn.



