Heb ganfod eitemau.

HoffCŴN pe byddwch yma

Ymwelwch ȃ Sir Pen-Y-Bont ar Ogwr

Sgrolio i lawr Tudalen
Coffico sy'n addas i gŵn

HoffCŴN pe byddwch yma

Ymwelwch ȃ Sir Pen-Y-Bont ar Ogwr

Efallai ein bod ni’n rhagfarnllyd ond rydyn ni’n hoffi meddwl mai Sir Pen-y-bont ar Ogwr yw’r ci-rchfan orau ar gyfer anturiaethau gyda’ch ffrindiau pedair coes.

Yn llawn dop o lefydd gwych, cyfeillgar i gŵn i ymweld â nhw ac aros, dyma’r gyrchfan ddelfrydol i ddod â’ch cymdeithion blewog.

Dyma rai o’r lleoedd sy’n gyfeillgar i’r cŵn i ymweld â nhw, tafarndai a chaffis i alw heibio, a lleoedd cyfeillgar i chi a’ch ffrind-ffwr i aros.

HoffCŴN pe byddwch yma…

Heb ganfod eitemau.

Puppuccino a ffws…

Porthcawl

The Potting Shed

The Rest Bay (cŵn ddim yn cael eu caniatau y tu fewn)

Coffico

The Hyde Out

Pen-Y-bont

Corvo Lounge

Awn ni i siopa…

Canolfan Siopa Mc Arthur Glen

Pawennau gwyrdd…

Canolfan Garddio Pyle

Cacen a chwtsh…

Gwesty Coed Y Mwstwr - Te ar gyfer cŵn i fwynhau gyda’ch ffrind gorau

Gwersylla, glampio neu charafanio…

Parc Carfannau Trecco Bay

Mynd am dro…

Ar yr arfordir

Gwarchodfa Natur Cynffig - Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gyda thwyni tywod a llyn dŵr croyw

Traeth Newton - Traeth sy'n croesawu cŵn trwy gydol y flwyddyn ym Mhorthcawl

Twyni Merthyr Mawr - Hafan gŵn gyda golygfeydd gwych o'r twyni tywod. Gadewch i’ch ci redeg i lawr y ‘Big Dipper’, y twyni tywod uchaf yn Ewrop

Bae Sger a Phinc - Efallai nad yw’r pâr mwyaf gorllewinol o faeau a thraethau Porthcawl, y Bae Pinc a’r Sger mor hygyrch â’r traethau mwy dwyreiniol, ond maen nhw’n dawelach a heb eu difetha oherwydd hynny

Mewndirol

Parc Gwledig Bryngarw - Cymysgedd arbennig o goetir, dolydd a gerddi ffurfiol gyda lle i gŵn redeg o gwmpas, a chanolfan ymwelwyr a chaffi i alw heibio wedyn

Parc Slip - ardal hynod o 300 erw a fu unwaith yn rhan o lofa. Mae ei lwybrau cerdded mynediad hawdd, llwybrau beicio di-draffig a gwlyptiroedd yn denu teuluoedd a'u ffrindiau pedair coes

Parc Calon Lan - Mae Parc Calon Lân ym mhen uchaf Cwm Garw ym Mlaengarw. O'r fan hon ar ddiwrnod clir gallwch chi reit i lawr y dyffryn i Bontyrhyl

Coetir Ysbryd y Llynfi - Lleolir Coetir Ysbryd y Llynfi ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi Uchaf, naw milltir i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr

Craig Y Parcau - Coetir derw ac ynn ar lethr serth Afon Ogwr yw Craig-Y-Parcau . Mae'n hafan i fywyd gwyllt gyda sawl llwybr troed

Am fwy o ysbrydoliaeth ewch i - https://www.bridgend.gov.uk/visit-us/nature-reserves/

Lawrlwythiadau

Cymdeithasol

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnwys cyfeillgar i gŵn trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - yno i wneud eich ymweliad â'r ardal gyda'ch ci yn haws ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol #HoffCŴNPeByddwchYma

Ysbrydoliaeth

Gweld ar y map

Trefi yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr