
Ynghylch
Adeiladwyd yr Heneb Gofrestredig a strwythur Rhestredig Gradd II* yma ym 1425 i alluogi pobl a cherti bychain i groesi Afon Ogwr (cyn hyn roedd pobl yn croesi’r afon trwy ryd yn y man hwn). Un o'r rhesymau pam fod y Normaniaid wedi codi eu castell (Castell Castellnewydd) ar ben y bryn gerllaw (Bryn Castellnewydd) oedd er mwyn rheoli'r groesfan bwysig hon dros yr afon a'r llwybr i ac o'r gorllewin. Roedd gan y bont wreiddiol bedwar bwa ond fe wnaeth llifogydd ym mis Awst 1775 ddinistrio’r ddau fwa gorllewinol. Disodlwyd y rhain gan un bwa lletach. Cafodd y bwa mwyaf dwyreiniol ei amsugno yn adeiladau cyfagos Rhif 12 a 14 Maes Dwnrhefn. Adeiladwyd y bont o rwbel mewn haen gyda rhagfur bach. Mae bellach yn cynnal llwybr cerrig crynion a llorlechi ac mae'n arwain i mewn i graidd hanesyddol canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae enw presennol y dref yn deillio'n ddilys o'r enw 'Bryggen Eynde' ac fe'i crybwyllir mewn dogfen sy’n dyddio o 1447 – yn fuan ar ôl codi'r bont gyntaf. Esblygodd yr enw dros nifer o flynyddoedd nes ei fersiwn yn yr oes bresennol, sef Bridgend yn Saesneg a’r enw Cymraeg cyfatebol, Pen-y-bont ar Ogwr.



