
Ynghylch
Dechreuodd Pen-y-bont ar Ogwr fel tref farchnad. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, credir bod marchnad ar gyfer 'ŷd, menyn a chaws' wedi bod yn cael ei chynnal o dan fwâu Hen Neuadd y Dref, gyda'r farchnad da byw yn cael ei chynnal gerllaw. Ym 1836 pasiwyd Deddf Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr gan ganiatáu creu marchnad bwrpasol ar safle'r hen gyrtiau tenis yn Stryd Caroline. Roedd y Ddeddf yn cynnwys codi lladd-dy a marchnad gwartheg newydd, gyda’r ail o’r rhain yn agor ar safle ger Stryd Wyndham / Stryd Adare. Ym 1837 adroddodd papur newydd y Cambrian eu bod 'yn llongyfarch pobl dda Pen-y-bont ar Ogwr am fod ganddynt bellach yr hyn y bu arnynt ei eisiau ers talwm, sef Marchnad dda a helaeth'.
Daeth y bennod nesaf yn hanes y farchnad ym 1906, pan gafodd adeilad y farchnad ei ddymchwel yn llwyr a'i ailgodi ar yr un safle, gan ymgorffori to a oedd yn rhoi gorchudd llawn a stondinau symudol. Ym 1908 cynhaliwyd yr Eisteddfod Fawr yn neuadd y farchnad ar Ŵyl San Steffan. Parhaodd adeiladau'r farchnad i fod ym mherchnogaeth Dunraven Estates Ltd tan 1955, pan gawsant eu caffael gan Gyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr. Arhosodd y farchnad yn weithredol ar safle Stryd Caroline tan 1972 pan gafodd yr adeiladau eu dymchwel gyda’r farchnad ei hun yn symud i leoliad newydd, dan do yn Y Rhiw. Er anrhydedd i hanes y safle, ym 1996, ail-osodwyd cloch 130 oed wreiddiol y farchnad yn y ganolfan siopa ar ôl iddi gael ei hailddarganfod mewn depo a oedd yn eiddo i’r Cyngor.



