Heb ganfod eitemau.

Yr Hen Wyrcws

Darparwyd y ddelwedd gan Lyfrgelloedd Awen

Ynghylch 

27

Adeiladwyd yr Hen Dloty Rhestredig Gradd II, a elwir hefyd yn Dloty Undeb Pen-y-bont ar Ogwr a’r Bont-faen, rhwng 1836 a 1838 o ganlyniad i Undeb Deddf y Tlodion Pen-y-bont ar Ogwr a'r Bont-faen (a ffurfiwyd ym mis Hydref 1836). Dyluniwyd yr adeilad gan George Wilkinson, a oedd yn enwog am ddylunio tlotai eraill yng Nghymru a Lloegr ac fe allai gartrefu hyd at 200 o breswylwyr. Roedd Wilkinson yn ffafrio'r arddull Elisabethaidd ar gyfer ei adeiladau, ac mae tloty Pen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft arbennig o gain o hynny.


Yn wreiddiol, roedd drychiad blaen yr adeilad yn edrych dros ardd ac mae'n cynnwys cyfres sydd bron yn gymesur o dalcenni pigfain dros ffenestri'r llawr cyntaf. Mae canol yr adeilad wedi'i ddiffinio gan dri thalcen pigfain, tal. Mae'r talcen canolog yn cynnwys arfbais, a’r ddau y naill ochr a’r llall yn cynnwys ffenestri hollt tenau bychain. Mae'r llawr gwaelod o dan y talcenni’n cynnwys dau ddrws bwaog a chanddynt ffrâm garreg sydd mewn arddull Duduraidd, gyda ffenestr hirsgwar rhyngddynt. Mae gweddill ffenestri’r llawr cyntaf a'r ail lawr yn hirsgwar gyda linteli a phennau cerrig.  


Roedd y tloty’n groesffurf o ran cynllun gydag adeiniau siâp ‘H’ yn sefyll allan i'r gorllewin. Roedd pob adain yn cael ei defnyddio ar gyfer gwahanol rywiau a dosbarthiadau h.y., gwrywod/benywod, eiddil/abl o gorff, ifanc/hen, ward mamau a babanod/plant ac yn y blaen. Roedd y tloty hyd yn oed yn cynnwys y clafdy cyntaf ar gyfer y tlawd. Yn y canol roedd dwy iard ymarfer corff, y naill i ferched a’r llall i ddynion. Cafodd y tloty ei gymryd drosodd ym 1930 gan Bwyllgor Cymorth Cyhoeddus Cyngor Sir Morgannwg, ynghyd â chyfrifoldebau cymorth i’r tlodion Undeb Pen-y-bont ar Ogwr a'r Bont-faen.

Cymorth Cyhoeddus ac fe gafodd y Sefydliad Cymorth Cyhoeddus ei gymryd drosodd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ddod yn Ysbyty Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr.

Eitem flaenorol
Eitem Nesaf
Dim eitemau blaenorol
Nid oes unrhyw eitemau nesaf yn dychwelyd i ddechrau
Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Llwybr Treftadaeth

×

gwasgwch ' Enter ' i chwilio