1. Darganfod llwybrau beicio golygfaol
I'r rhai sy'n hoff iawn o feicio, mae'r Llwybr Celtaidd yng Nghwm Ogwr hardd yn hanfodol! Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr heb draffig yma, byddwch yn cael eich cyfarch gan olygfeydd godidog o fryniau a dyffrynnoedd, afonydd, a phentrefi tlws. Dyma gyfle i archwilio tirweddau amrywiol a hardd yr ardal a hefyd clocio milltiroedd a threulio amser bendigedig yn yr awyr agored.
I’r rhai sy’n hoffi concro’r copaon, mae Ffordd Morgannwg Fawr yn cynnig rhwydwaith o lwybrau marchogaeth a llwybrau beicio drwy fynyddoedd a llwybrau sy’n llawn harddwch naturiol, gan gynnig siwrneiau sy’n gyforiog o olygfeydd a thlysni Cymru.
Os yw gwynt y môr yn galw - mae gan Borthcawl lwybr beicio glan môr gyda golygfeydd arfordirol hardd, gan fynd heibio i atyniadau niferus Porthcawl a lleoedd i gael tamaid i'w fwyta ar hyd y ffordd.
Chwilio am rywbeth mwy anturus? Bydd llwybrau’r Darren Fawr yn her i'r beicwyr mynydd mwyaf beiddgar, yn ogystal â chynnig traciau i ddechreuwyr. Draw ym Maesteg, mae Clwb Rasio BMX Llynfi yn cynnig cyfleoedd i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau sesiynau llawn cyffro ar eu trac.
2. Archwilio Llwybr Arfordir Cymru
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr arfordirol di-dor pan agorwyd Llwybr Arfordir Cymru gyntaf yn 2012, gyda darn 11.5 milltir Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys tirnodau diddorol, golygfeydd anhygoel ac atyniadau amrywiol.
Yn ymestyn o Draeth y Sgêr i Aberogwr, mae'r llwybr yn mynd trwy faeau diarffordd yn ogystal â chynnwys ardaloedd o ddiddordeb hanesyddol, atyniadau fel Parc Difyrion Coney Beach a Marina Porthcawl , a chyfleoedd i archwilio'r siopau, y caffis a'r bwytai ym Mhorthcawl. Gyda dwy warchodfa natur genedlaethol hefyd ar hyd y rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru – gall y rhai sy’n chwilio am droeon heriol fwynhau dringo’r twyni tywod yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwninger Merthyr Mawr . Dysgwch fwy am y llwybrau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru yma .
3. Mwynhau therapïau poeth ac oer
Mae mwynhau therapïau poeth ac oer yn gallu gwella eich lles chi a dadwenwyno eich corff, gan ychwanegu elfen wych o ymlacio at eich profiad awyr agored.
Ar ôl diwrnod hir o anturiaethau, neu i roi cychwyn gwych i'ch diwrnod - mae Y Sawna Awyr Agored yng Nghoed Candleston yn llecyn perffaith i ymlacio, lleddfu straen ac adfywio. Bydd cyfle i chi fwynhau gwres lleddfol y sawna a mwynhau'r harddwch o'ch cwmpas chi ar yr un pryd. Gyda bath iâ, cawod coetir a'r ychwanegiad diweddar - twba twym y coetir, mae gan yr encil unigryw yma bopeth sydd arnoch ei angen i hybu eich lles yn 2025!
I gael profiad heddychlon ar lan y môr, ewch i Hikitalo am sawna tân pren tebyg i'r rhai sydd i'w cael yn y Ffindir, sawna sy'n edrych dros Fae Sandy hardd ym Mhorthcawl. Mae'r cyferbyniad rhwng y cynhesrwydd y tu mewn i'r sawna gydag ymdrochi adfywiol yn y môr yn ffordd epig o lanhau eich corff a'ch meddwl wrth edrych ar y golygfeydd arfordirol, myfyrio ar y flwyddyn sydd i ddod a gosod nodau ar gyfer lles! Bydd cyfle i fachu paned yn Grow and Grind drws nesaf, llecyn cyfarfod poblogaidd i grwpiau lleol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r mannau naturiol ar yr arfordir ar gyfer gweithgareddau lles.
4. Camu'n ôl mewn amser gyda safleoedd treftadaeth lleol
Archwiliwch adfeilion y cestyll sy'n llawn cannoedd o flynyddoedd o hanes yng Nghoety a Chastellnewydd , yn ogystal ag Ogwr gerllaw – a phob un yn cynnig cyfle i fynd yn ôl mewn amser wrth fwynhau awyr iach a theithiau cerdded gaeafol. Bydd cyfle i ddod o hyd i olion anheddau sydd wedi’u cuddio yn yr isdyfiant ym Merthyr Mawr gyda Chastell Candleston, a gweld creiriau’r oesoedd canol yng Ngwarchodfa Natur Cynffig . Os ydych chi'n chwilio am lwybr treftadaeth mwy hygyrch, mae Llwybr Treftadaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn tynnu sylw at safleoedd hanesyddol o amgylch canol y dref.
5. Dod yn agos at natur
Gyda gofod gwyrdd helaeth yn rhychwantu copaon mynyddoedd yr arfordir, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i chi ddod yn agos at natur! Dyma rai o’n hoff fannau lleol ni i chi eu harchwilio:
Yn berl gudd lle mae llonyddwch yn cwrdd â bywyd gwyllt, mae’r warchodfa hardd yma'n gartref i gynefinoedd amrywiol, gan ei gwneud yn hafan i wylwyr adar a phobl sy'n hoff o fyd natur. Ewch am dro ar hyd y llwybrau sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, neu gymryd ennyd i ymlacio wrth ymyl y llyn a’r pyllau.
Darn ar wasgar o gefn gwlad gyda gerddi wedi’u tirlunio, coetiroedd, cae chwarae, pyllau a llwybrau glan yr afon – mae’r parc gwledig yma'n ddelfrydol ar gyfer tripiau i'r teulu, picnics, a theithiau cerdded hamddenol. Gyda llwybrau helaeth sy'n ymdroelli trwy dirweddau amrywiol, gallwch gysylltu â byd natur a chymryd rhan mewn ymarfer corff ysgafn - cyfuniad gwych ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol!
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig
Yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn ardal warchodedig lle mae twyni tywod yn cyfuno'n ddi-dor â morfeydd heli a gwlybdiroedd ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cerdded, gwylio adar, a ffotograffiaeth. Mae'r warchodfa'n cynnig ecosystem unigryw ac mae'n gartref i Bwll Cynffig sy'n bwll syfrdanol.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr
Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Cwninger Merthyr Mawr un o'r systemau twyni tywod mwyaf yng Nghymru. Bydd mynd am dro yma'n eich arwain chi drwy dirweddau hudolus ac yn cynnig cyfle i chi anadlu awyr iach y môr. Mae’r twyni tywod yn berffaith ar gyfer taith gerdded heriol, ac yn arwain at draeth hir, tywodlyd lle gallwch chi orffwys a mwynhau golygfeydd y môr.
Ewch ati i archwilio'r coetir ir a'r mynyddoedd, lle mae llonyddwch y coed a'r bywyd gwyllt yn cynnig dihangfa o fwrlwm bywyd bob dydd. Yn ddelfrydol ar gyfer dro hamddenol neu daith feicio heddychlon, mae'r coetir yma'n llecyn gwych ar gyfer pawb sydd eisiau ymlacio ac adfywio yng nghanol byd natur.
Gyda mannau prydferth ar lan y llyn ar gyfer picnic, a llwybrau sy’n arwain at lwybrau coetir a mynydd, mae Parc Calon Lân yn swatio ym mhen uchaf Cwm Garw – lle heddychlon lle gallwch chi ailgysylltu â byd natur!
Yn ffafrio encil dan do?
Os yw'n well gennych chi gael profiad o lesiant clyd dan do – mae Gwesty Coed y Mwstwr yn cynnal diwrnod o fyfyrio, ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio yn ei encil llesiant cyntaf ar 19 Ionawr, gan gynnwys ioga, bath sain a bwydlen wedi’i chynllunio’n ofalus, yn llawn maetholion! Archebwch yma
Gallwch hefyd fwynhau'r sba arobryn yng Ngwesty a Sba Best Western Premier Heronston , gydag amrywiaeth o therapïau a thriniaethau, yn ogystal â chyfleusterau rhagorol sy'n cynnig campfa, sawna a nofio!
Ar gyfer y flwyddyn newydd a thu hwnt…
Mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn eich gwahodd chi i gamu allan i'r awyr agored ac ymgolli mewn harddwch naturiol syfrdanol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae'r atyniadau lleol, o warchodfeydd natur i sawna awyr agored, llwybrau beicio a llwybrau cerdded, yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer antur, ymlacio a lles. Cydiwch yn eich esgidiau cerdded, neidio ar gefn eich beic, a chofleidio'r rhyfeddodau sy'n aros amdanoch chi yn yr awyr agored ym Mhen-y-bont ar Ogwr, beth bynnag yw'r tymor!

.jpg)












