Mae ein darn 111/2 milltir o Arfordir yn llawn cyferbyniadau, drwy gydol y flwyddyn. Mae gan y draethlin dwyni tywod dramatig, traethau baner las, tref glan môr brysur A Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae Cymru'n dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru eleni. Beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, darganfyddwch arfordir hardd Sir Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt yn ystod y flwyddyn ddathlu yma.
Mae ein traethau baner las anhygoel a'n tonnau cyson yn denu syrffwyr o bob gallu o bob cwr ac yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay fe ddewch chi o hyd i bopeth sydd arnoch ei angen – hyfforddwyr cyfeillgar, llogi offer, ystafelloedd newid a chawodydd, a chaffi gyda golygfeydd gwych. Ar gyfer mathau eraill o gyffro, rhowch gynnig ar farcudsyrffio, gwyntsyrffio neu badlfyrddio. Y saith bae o amgylch tref glan môr brysur Porthcawl yw rhai o'r traethau gorau yng Nghymru. Mae cyfle hefyd i fynd yn agos at fywyd gwyllt y môr mewn digwyddiadau hwyliog ar y traethau. Mwynhewch daith gerdded fel mae'n machlud ar hyd y tywod neu fentro i'r môr i nofio.
Llongddrylliadau, twyni tywod a thegeirianau
Cyfle i ddarganfod harddwch arfordirol traethau Pen-y-bont ar Ogwr ar y daith gerdded 3 milltir rhwng Rest Bay a Gwarchodfa Natur Cynffig gan basio llongddrylliadau, tegeirianau prin, a rhai o dwyni tywod talaf gogledd Ewrop.
Gan ddechrau o faes parcio Rest Bay, ewch tua'r Gorllewin ar Lwybr Arfordir Cymru heibio i lawntiau Clwb Golff Brenhinol Porthcawl i fwynhau'r golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe. Ym mhentir garw Trwyn Sgêr, efallai y bydd y rhai craffaf yn eich plith yn sylwi ar olion llongddrylliad o 1947 a ysbrydolodd nofel R.D Blackmore The Maid of Sker. Ewch ymlaen heibio i hafan naturiol Traeth Cynffig, sy'n cael ei addoli am ei degeirianau lliwgar eithriadol o brin, ei boblogaeth o bryfed a rhai o dwyni tywod talaf Ewrop.

Treuliwch y diwrnod yn archwilio llwybrau tywodlyd y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Cynffig. Yn cael ei chydnabod fel un o warchodfeydd twyni tywod gweithredol gorau Cymru, estynnwch am eich sbienddrych a gwylio'r adar rhydio ar eich taith droellog drwy'r dirwedd wyllt. Cadwch lygad am y Cwtiad Aur, Hwyaid Copog a Hwyaid Llwyd yn glanio yn nŵr Pwll Cynffig, yr ail lyn dŵr croyw naturiol mwyaf yn Ne Cymru. Dilynwch lwybr cylch traeth Sgêr am siwrnai hirach sy'n arwain yn ôl i mewn i'r wlad tuag at ddolydd a choetiroedd y warchodfa lle gellir gweld gweision y neidr a phryfed yn hofran yng nghanol y blodau gwyllt. Neu efallai y byddai'n well gan goesau bach daith gerdded traeth droednoeth y Beach Academy, un o'u llwybrau glan môr sy'n addas i deuluoedd.


Ewch am dro ar hyd y tywod i Farina Porthcawl
Os ydych chi'n bwriadu mynd â'r teulu cyfan allan, ystyriwch fynd am dro arfordirol ar hyd traeth Bae Trecco. Bydd cyfle i fwynhau rhywfaint o haul y gwanwyn a deifio i hwyl glan môr traddodiadol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Gan ddechrau o gyrchfan boblogaidd i deuluoedd Parc Gwyliau Bae Trecco, ewch tua'r gorllewin ar hyd llwybrau tywodlyd tuag at y reidiau lliwgar, y rolyrcostyrs a'r gemau sy'n edrych dros dywod Traeth Coney.
Bydd y rhai bach wrth eu bodd yn chwarae yn y tywod euraid cyn parhau â'r daith gerdded ar hyd Promenâd y Dwyrain i Farina hyfryd Porthcawl. Cewch orffen eich taith gyda thamaid i'w fwyta yn un o'r llefydd bwyta niferus ar hyd yr arfordir sy'n gweini popeth o pizzas traddodiadol blasus i brydau pysgod ffres.

Cestyll a thwyni ar yr arfordir Treftadaeth
Does dim prinder traethau Baner Las, safleoedd daeareg cynhanesyddol rhyfeddol a goleudai tlws ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Cychwynnwch ar y darn wyth milltir rhwng Porthcawl ac Aberogwr a mynd heibio i gestyll atmosfferig, pentrefi tlws a mwynhau'r golygfeydd sy'n ymestyn draw am lannau Gogledd Dyfnaint.
Gan ddechrau o Aberogwr, cerddwch i mewn am y tir ar hyd glannau Afon Ogwr ac archwilio adfeilion hynafol y castell. Ailymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ac ewch yn ôl tuag at yr arfordir drwy dir gwyllt Gwarchodfa Natur Merthyr Mawr. Rhowch gyhyrau eich coesau ar brawf drwy ddringo'r Dipper Mawr a thwyni eraill cyfagos cyn mynd ymlaen drwy bentref tlws Newton ac ymlaen i draethau Porthcawl. Gorffennwch eich antur yng Ngoleudy Porthcawl, sy'n edrych dros yr harbwr lliwgar, a chael diod bach haeddiannol.

.jpg)












