Os ydych chi'n cofleidio byw yn iach yn y Flwyddyn Newydd fel y mae llawer ohonom ni ar ddechrau mis Ionawr, gallai Sir Pen-y-bont ar Ogwr fod yn gyrchfan berffaith i chi ymlacio, gorffwyso a dechrau o'r newydd ar gyfer 2024! O brofiadau sba heddychlon i weithgareddau awyr agored i'ch bywiogi chi, fe ddewch chi o hyd i ffyrdd gwych o roi hwb i'ch lles...
Ymgolli yn llonyddwch y goedwig
Encil newydd cyffrous yn syfrdanu ymwelwyr gyda'i leoliad epig yng Nghoedwig Candleston - bydd y Sawna Awyr Agored yn gyfle i chi groesawu lles yn y gwyllt, gan gynnig profiad unigryw yng nghanol coetir hudolus! Cyfle i ailgysylltu â'r byd naturiol wrth newid rhwng therapïau poeth ac oer. Mwynhewch wres ymlaciol y sawna ynghyd â hyfrydwch cawod oer yn yr awyr agored, bwcedi trochi a phodiau i ymgolli mewn dŵr oer. Gyda llonyddwch a harddwch y lleoliad hwn, efallai na fyddwch eisiau gadael!
Cerdded yn y gwyllt - o'r cymoedd i'r arfordir
Cyfle i ymgolli yn nhirweddau syfrdanol Sir Pen-y-bont ar Ogwr gyda llwybrau adfywiol wedi'u hamgylchynu gan fyd natur. Os yw'n well gennych chi fynd am dro hamddenol neu ddilyn llwybrau cerdded heriol, mae ein cymoedd ni'n cynnig digon o lwybrau sy'n addas ar gyfer lefelau ffitrwydd amrywiol. Anadlwch yr awyr iach, ffres wrth i chi archwilio coetiroedd, dolydd a golygfeydd ysgubol, a theimlo straen bywyd bob dydd yn diflannu gyda phob cam. I lawr ar yr arfordir, mae darn epig o Lwybr Arfordir Cymru i'w fwynhau dros 11.5 milltir, gan fwynhau golygfeydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol CwningerMerthyr Mawr, saith traeth Porthcawl a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ar hyd y daith!
Beicio at les gyda llwybrau Sir Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd pobl sy'n hoff o feicio yn dod o hyd i ddigon i'w archwilio yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda rhwydwaith o lwybrau golygfaol. Ewch ati i bedlo eich ffordd drwy bentrefi tlws, ar hyd llwybrau arfordirol, ac ar draws cefn gwlad braf, gan fwynhau harddwch amrywiol y rhanbarth ar eich cyflymder eich hun. Mae beicwyr hamddenol wrth eu bodd â'n llwybrau beicio wedi'u marcio ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'r rhai sy'n chwilio am dipyn o wefr yn mwynhau dringo a dod i lawr llwybrau'r mynyddoedd!
Digon o Fitamin C i'ch cadw'n iach
Os ydych chi am fentro i'r dŵr ar gyfer nofio gwyllt, cymryd rhan yn chwaraeon dŵr y gaeaf neu ddim ond bod yn agos at y môr i glywed y tonnau'n rholio, mae ein harfordir yn cynnig ffordd fywiog o groesawu lles yn y flwyddyn newydd yma. Gyda saith traeth ym Mhorthcawl, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gyrchfan boblogaidd i'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r môr fel eu therapi. Wrth i ymdrochi mewn dŵr oer barhau i dyfu mewn poblogrwydd am ei fanteision iechyd posibl, mae ein harfordir yn fan cychwyn i'r rhai sy'n ceisio adfywio. Cofiwch ddilyn y cyngor diogelwch gan yr RNLI os ydych chi'n mentro i'r dŵr y gaeaf yma!
Camwch i fyd o lonyddwch yng Ngwesty Heronston Best Western
Os mai ymlacio dan do sydd at eich dant chi - yn swatio yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr mae'r Stepping Stone Spa yng Ngwesty Heronston Best Western. Dyma hafan o ymlacio ac adfywio. Bydd cyfle i chi fwynhau amrywiaeth o driniaethau lleddfol, o dylino i drin yr wyneb, wedi'u cynllunio i gael gwared ar densiwn ac adfywio'ch synhwyrau. Gyda therapyddion arbenigol a chyfleusterau moethus, mae'r sba yng Ngwesty Heronston yn llecyn perffaith i faldodi'ch hun a dianc rhag straen bywyd bob dydd.
Dewiswch eich llwybr perffaith at lesiant ...
Yn barod i gychwyn ar encil lles mewn amgylchedd hardd? Os byddwch chi'n dewis triniaethau sba hamddenol, profiadau awyr agored cyfranogol, neu weithgareddau i bwmpio adrenalin, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gefndir perffaith ar gyfer adfywio ac adnewyddu. Meddwl aros am sbel? Edrychwch ar yr opsiynau llety yma.