Wrth i dymor y Nadolig fynd rhagddo, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn trawsnewid yn ŵyl fywiog o oleuadau, chwerthin a thraddodiadau hoff. O ddigwyddiadau cyfeillgar i deuluoedd i weithgareddau gwefreiddiol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Dyma ganllaw i rai o uchafbwyntiau’r Nadolig sy’n gwneud treulio’r Nadolig yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn brofiad hudolus:
Nadolig ym Mhorthcawl: Tachwedd 30ain
Cydiwch yn eich hetiau Siôn Corn ac ewch i Borthcawl am ddiwrnod o hwyl yr ŵyl! Cofleidiwch swyn Nadolig Fictoraidd gydag Amgueddfa Porthcawl a phrofwch dymor y Nadolig fel y byddai yn y 19eg ganrif, gyda gwisgoedd cyfnod, canu carolau, corau a digon o addurniadau hudolus. Ewch i weld Siôn Corn yn ei groto a mwynhau'r awyrgylch cynnes a hyfryd gydag adloniant yn y bandstand ac o amgylch y dref, a bydd y goleuadau Nadolig yn y dref yn cael eu cynnau ac arddangosfa anhygoel gan Spark! Drymwyr LED !
Dyddiau Agored y Nadolig Tŷ Sant Ioan
Ymunwch â Thŷ Sant Ioan am ddiwrnodau agored Nadoligaidd ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd, dydd Sul 8 Rhagfyr a dydd Sadwrn 14 Rhagfyr (11am - 3pm). Dewch i weld yr adeilad hanesyddol, sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, yn fyw gydag addurniadau Nadolig traddodiadol a dathliadau.
Amser stori gyda Siôn Corn yn McArthur Glen o 7 Rhagfyr
I gael profiad siopa gwirioneddol hudolus, ewch i McArthur Glen Pen-y-bont ar Ogwr - sy'n cynnig dewis eang o siopau, addurniadau Nadolig anhygoel a llawer yn digwydd i ddiddanu siopwyr a lledaenu llawenydd y Nadolig! O frandiau ffasiwn drudfawr i nwyddau cartref a siopau anrhegion, fe welwch chi rywbeth at ddant pawb ar eich rhestr, ac mae popeth mor arbennig yno yr adeg yma o'r flwyddyn gyda pherfformiadau a gweithgareddau i ymgolli yn hud y tymor. Cyfle i glywed straeon gan Siôn Corn bob dydd Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr, ysgrifennu lythyrau i Begwn y Gogledd neu gofnodi atgofion Nadolig gyda'ch anwyliaid yn yr ardaloedd hun-lun Nadoligaidd!
Parêd Nadolig Maesteg: 7fed Rhagfyr
Does dim byd yn dal hud y Nadolig fel cymunedau'n dod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl! Mae Digwyddiad Cynnau Goleuadau Nadolig Cyngor Tref Maesteg yn ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi dechrau dathliadau’r Nadolig yn y dref, lle gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau diwrnod llawn adloniant, cerddoriaeth, ac, wrth gwrs, goleuo’r goeden Nadolig y mae disgwyl mawr amdano. Ymunwch â ffrindiau a theulu i wylio’r dref yn pefrio ac yn disgleirio, a chofiwch gael golwg ar Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd, sy’n berl hanesyddol wrth galon y gymuned. Mae neuadd y dref wedi ailagor yn ddiweddar ar ôl gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd i sicrhau ei dyfodol fel lleoliad cymunedol gwerthfawr i bobl Maesteg, a bydd yn cynnal Ffair Nadolig ar ddiwrnod yr orymdaith.
Groto Siôn Corn yn Nhŷ Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr
Ar agor ar 30 Tachwedd, 7 Rhagfyr a 14 Rhagfyr (10am - 3pm), mae Groto Siôn Corn yn Nhŷ Carnegie yn cynnig profiad hudolus i blant wrth iddyn nhw gwrdd â Siôn Corn a dewis anrheg, gyda digon o gyfleoedd i gofnodi atgofion ffotograffig. Tra byddwch chi yn y dref, edrychwch ar yr addurniadau Nadoligaidd a’r arddangosfeydd ar draws canol y dref ac yng Nghanolfan Siopa’r Rhiw wrth i chi bori drwy’r siopau am yr anrhegion Nadolig arbennig hynny! Os byddwch chi'n ymweld ar 7 Rhagfyr, bydd cyfle i chi brynu anrhegion unigryw wedi'u gwneud â llaw o'r Farchnad Crefftwyr Nadolig dros dro yng Nghanolfan Siopa'r Rhiw.
Gŵyl Gerdd Nadolig Porthcawl: 7 Rhagfyr
I'r rhai sy'n hoff o gerddoriaeth, bydd y dathliad hwn yn siŵr o'ch cael chi i ysbryd y Nadolig! Yn cynnwys bandiau a chorau lleol yn perfformio amrywiaeth o alawon Nadoligaidd rhwng 11am - 4.30pm, bydd Gŵyl Gerdd Nadolig Porthcawl yn bleser i’w fwynhau wrth i chi wneud ychydig o siopa Nadolig yn amrywiaeth o siopau Porthcawl – o enwau’r stryd fawr i siopau annibynnol a siopau bwtîc.
Gorymdaith Llusernau Gaeaf Bryngarw: 8 Rhagfyr
Daw dathliad o greadigrwydd, cymuned, y Nadolig a golau i Barc Bryngarw gyda gorymdaith llusernau hudolus. Bydd yr orymdaith yn dechrau am 4.30pm, dan arweiniad y cwmni drymio LED anhygoel Worldbeaters SPARK! - yn goleuo'r tywyllwch yng nghwmni pyped anferth o'r Small World Theatre ryfeddol. Wedyn, ymunwch â charolau Nadolig wrth i Seindorf Arian wych Cwm Ogwr berfformio am 5.30pm.
Ras Tractorau Wedi'u Goleuo: 14 Rhagfyr
Gan ddechrau yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip am 4.30pm, bydd confoi o dractorau wedi'u haddurno'n llachar, ynghyd â sled Siôn Corn, yn rhoi modd i fyw i wylwyr wrth iddyn nhw deithio i wahanol lefydd o amgylch y fwrdeistref sirol gan gynnwys Tondu, Sarn, Abercynffig, Pen y Fai, Pen-y-bont ar Ogwr, Cefn Glas, Trelales, Cefn Cribwr, Mynydd Cynffig, Y Pîl, Gogledd a De Corneli a Phorthcawl. Yn un o’r digwyddiadau y mae'r disgwyl mwyaf amdano ar galendr Nadolig Sir Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r arddangosfa deuluol hon yn creu awyrgylch cynnes sy’n crynhoi ysbryd y Nadolig yn berffaith. Nod y digwyddiad, a drefnir gan Glwb Henoed Sir Pen-y-bont ar Ogwr , yw codi arian i elusennau dewisol - mae eu tudalen rhoddion ar gael yma .
Reid Nadolig Meibion Siôn Corn Dydd Sul 22 Rhagfyr
Rhowch gychwyn i'ch dathliadau Nadoligaidd gyda Reid Nadolig drawiadol Meibion Siôn Corn - casgliad o feicwyr modur brwdfrydig sy'n addurno eu beiciau bob blwyddyn ac yn mynd i Borthcawl i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl sy'n mynd heibio a chodi arian ar gyfer elusennau lleol. Mae’r digwyddiad twymgalon yma nid yn unig yn arddangos beiciau trawiadol ond hefyd yn dod â’r gymuned at ei gilydd wrth iddyn nhw ymweld â chartrefi gofal ym Mhorthcawl ar hyd y ffordd. Tybed welwch chi Siôn Corn yn cyfnewid ei sled am feic modur!
Nofio Dydd Nadolig Porthcawl
Un o ddigwyddiadau Nadolig enwocaf Sir Pen-y-bont ar Ogwr yw Nofio Nadolig Porthcawl . Mae’r traddodiad hynod hwn, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol ar fore’r Nadolig, yn denu cannoedd o gyfranogwyr o bell ac agos sy’n herio’r dyfroedd rhewllyd i gefnogi elusennau lleol. Bob blwyddyn gosodir thema ar gyfer gwisg ffansi, gyda'r Môr Glas Dwfn yn thema ar gyfer eleni. Os ydych chi’n mentro i'r dŵr neu ddim ond yno i fwynhau’r profiad hapus, heb os nac oni bai mae Nofio Nadolig Porthcawl yn ddigwyddiad sy’n ymgorffori ysbryd yr ŵyl o roi.
Cystadleuaeth Dyn Eira Tywod: 29ain Rhagfyr
Ydych chi eisiau adeiladu dyn eira (tywod)? Os felly, mae gan Beach Academy Wales ddigwyddiad perffaith i chi! Heriwch yr elfennau gaeafol am brynhawn llawn hwyl o chwarae yn y tywod gyda'ch anwyliaid, gan grefftio eich campwaith o ddyn eira tywod! Er bod gwobrau ar gael ar gyfer y creadigaethau mwyaf trawiadol - mae pawb sy'n cymryd rhan yn enillwyr wrth brofi diwrnod allan Nadoligaidd bendigedig!
Dewch i fwynhau byd Nadoligaidd rhyfeddol…
Os ydych chi eisiau cofleidio naws y Nadolig gyda gwyliau gaeafol - beth am brofi hud y Nadolig yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr? Cydiwch yn eich anwyliaid, marcio eich calendrau yn llawn o'r digwyddiadau Nadoligaidd yma ac ymuno yn hwyl yr ŵyl! Meddwl aros am ychydig? Os ydych chi'n chwilio am le i ddianc dros yr ŵyl, gwesty bwtîc clyd, neu dŷ lletya hyfryd, edrychwch ar yr opsiynau llety yma .
O.N. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ni am fwy o ddigwyddiadau Nadoligaidd o amgylch Sir Pen-y-bont ar Ogwr!


.jpg)











