Darganfyddwch y brandiau rydych chi'n eu caru yn McArthur Glen Designer Outlet. Mae dros 90 o frandiau'r stryd fawr a dylunwyr, a digon o lefydd ar gyfer coffi neu ginio yn ystod eich taith siopa. Cyfunwch hynny gyda pharcio am ddim, mynediad i'r anabl, llogi cadeiriau olwyn a mannau awyr agored hamddenol, ar gyfer ymweliad i'w gofio. Mae'r sinema a'r ardal chwarae dan orchudd i blant yn golygu ei fod yn ddiwrnod llawn hwyl i deuluoedd hefyd.
Mae'r nefoedd siopa hon mewn man cyfleus ychydig oddi ar Gyffordd 36 yr M4, tua 30 munud yn y car o Gaerdydd ac Abertawe.