Wrth i'r hydref gyrraedd gyda'i liwiau bywiog a'i awyr ffres, daw Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fyw gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous i bawb eu mwynhau. O anturiaethau casglu pwmpenni i dripiau cyfeillgar i deuluoedd mewn parciau hardd, beth am i ni edrych ar rai o ddigwyddiadau gorau'r hydref yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr:
Darganfyddwch y profiadau casglu pwmpenni perffaith ym mis Hydref!
Pwmpenni PYO Pen-y-bont ar Ogwr
Wedi'i lleoli mewn hafan wledig lle mae teulu'r Williams wedi ffermio gwartheg a defaid dros y 60 mlynedd diwethaf, mae Fferm Dolau Ifan Ddu yn llawn swyn cefn gwlad ac yn lleoliad gwych sy'n addas i gŵn i archwilio natur! Pat y mochyn a'i phicedi, rhyfeddu at y miloedd o bwmpenni yn barod i'w dewis, a pharatoi ar gyfer llawer o luniau gyda chefndir hardd!
Safle Casglu ar Fferm Tŷ Coch, Porthcawl
Ar yr arfordir, fe welwch chi berl arall o leoliad ar gyfer casglu pwmpenni yn Picking Patch ar Fferm Tŷ Coch. Cewch barcio am ddim yma a chael mynediad am ddim, gyda mwy nag ugain o fathau o bwmpenni i chwilio amdanyn nhw a chyfle i weld anifeiliaid fferm yn agos - mae digon o gyfleoedd i greu atgofion am byth!!
Mwynhewch hwyl i'r teulu ym Mharc Gwledig Bryngarw yr hanner tymor yma
Yn ogystal â bod yn ofod awyr agored bythgofiadwy i fwynhau lliwiau cyfnewidiol y tymor, mae Parc Gwledig Bryngarw hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau hwyliog i'r teulu i ddathlu'r hydref!
Swynion swigod, meistroli crefft hedfan ysgub gyda llaw gadarn a dangos eich gwybodaeth gyfareddol gyda'r Ysgol Crefft Gwarchod a Dewiniaeth - rhan o ddigwyddiad Adrodd Straeon Louby Lou, a fydd yn tywys plant ar antur Calan Gaeaf ar 30ain a 31 Hydref.
Mwynhewch fwy o hwyl hanner tymor, gyda Gweithdai Cerfio Pwmpenni ar ddydd Sadwrn 28ain Hydref a straeon arswyd, crefftau a helfa drysor gyda Llyfrgelloedd Awen ar ddydd Mercher 1af Tachwedd, neu greu eich antur deuluol eich hun drwy archwilio dros gant o erwau o barcdir prydferth!
Digwyddiadau Calan Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip
Nid yn unig y mae'n llecyn prydferth eang i ymgolli ym myd natur a rhyfeddu at olygfeydd godidog o gefn gwlad - mae Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Parc Slip hefyd yn lle gwych i gymryd rhan mewn digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau!
Y mis yma, gall eich bwystfilod bach ymuno yn hwyl Calan Gaeaf gyda stori The Giggly Ghoul gan Story Babies ar ddydd Sadwrn 21ain Hydref, a gall egin artistiaid fwynhau gweithdy paentio arswydus ar ddydd Gwener 27ain Hydref.
Ar ddydd Sadwrn 28ain Hydref, mae gwahoddiad i blant i ddiwrnod o grefftau arswydus, gemau codi ofn, cacennau iasol ac ysgrifennu straeon creadigol Calan Gaeaf - mae cyfle hyd yn oed i gael eu gwobrwyo am y wisg orau yn y gystadleuaeth gwisg Calan Gaeaf!
Nid oes unrhyw drip i Barc Slip yn gyflawn heb flasu'r danteithion yn y caffi, gydag opsiynau blasus yr hydref fel siocled poeth popgorn taffi a chawl pwmpen ac afal sbeislyd, ac wedyn mae'n rhaid gorffen gydag un o bwdinau cartref arbennig y caffi!
Amser stori Calan Gaeaf cyfareddol yn Nhŷ Sant Ioan
Chwilio am straeon arswydus i fynd i ysbryd Calan Gaeaf? Pa leoliad gwell ar gyfer profiad Calan Gaeaf iasol nag un o dai hynaf Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda mwy na 500 mlynedd o hanes diddorol i'w archwilio! Ewch i Dŷ Sant Ioan ac ymgolli yn yr awyrgylch, gan eistedd ymhlith arteffactau hynafol ar gyfer straeon cyfareddol gan y storïwr proffesiynol David Ambrose ar noson Hydref 28ain.
Arhoswch am ychydig i fwynhau'r golygfeydd.
Yn ogystal â chynnig digwyddiadau a gweithgareddau cyffrous sy'n dathlu'r tymor, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i lecynnau awyr agored hardd i gofleidio lliwiau, arogleuon a synau'r hydref. Beth am aros am ychydig i fwynhau'r lliwiau coch, oren, a melyn cyfareddol sy'n paentio'r dirwedd tra byddwch chi yma? O weithgareddau awyr agored i gasglu pwmpenni a bwyd a diod tymhorol, mae cyfle i fwynhau rhyfeddodau'r hydref a chreu atgofion bythgofiadwy yn Sir Pen-y-bont y tymor yma...