I'r coed
Ar 23ain Hydref, ymunwch â Bushcraft Adventures ar gyfer eu Gweithdy Coetir newydd, gan ddechrau gyda rhywfaint o ioga cynhesu sy'n cael ei gynnal yn eu tŷ crwn Coetir, cyn mentro ymlaen gyda meddwl clir a llawn ffocws yn barod i brofi sesiwn taflu bwyeill meddwlgarwch. Hefyd ar gael gyda Bushcraft Adventures - rhowch gynnig ar daflu bwyeill, crefft y gwyllt i deuluoedd neu saethyddiaeth.
Lapiwch yn gynnes am antur glan môr
Nid ar gyfer misoedd yr haf yn unig mae dyddiau allan ar lan y môr, mentrwch ar y tywod gydag Academi Traeth Cymru ar gyfer Diwrnod Slefrod Môr y Byd yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay. Mae Academi Traeth Cymru hefyd wedi creu 4 taith gerdded arfordirol fer, addas i deuluoedd, o'r enw 'Llwybrau Glan y Môr', gan gyfuno bod yn actif a dysgu. Cyfle i godi eich ysbryd wrth i chi gerdded, gyda theithiau cerdded byr ar hyd glan y môr a gweithgareddau traeth syml yn eich cysylltu chi â bywyd glan y môr, yr amgylchedd morol a'ch gilydd. Beth am ddechrau gyda thaith gerdded Riffiau Rest Bay?
Darganfod bywyd gwyllt
Mae tymor yr ysbrydion wedi cyrraedd felly ewch draw i Warchodfa Natur Cynffig ar y 29ain a'r 30ain o Hydref, codi taflenni llwybr Calan Gaeaf yn yr Hyde Out Horsebox a chwilio am 6 pryf cop brawychus. Cofiwch ddod â fflachlamp! Mae'r warchodfa natur hefyd yn cynnal Marchnad Ffermwyr ar ddydd Sul cyntaf pob mis ac mae The Hyde Out, bocs ceffylau wedi'i addasu, yn gweini bwydlen o goffi a chacennau lleol yn wythnosol, dydd Iau i ddydd Sul. Estynnwch am eich welingtyns a mwynhau'r mwy na 300 o erwau yng Ngwarchodfa Natur Slip Parc. O drychfilod bach i adar ysglyfaethus, mae Parc Slip yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt drwy gydol y tymhorau sy'n newid. Mae'r ardal ddiogel yn rhoi cyfle i archwilwyr bach ymgolli ym myd natur. Dewiswch o draciau beicio di-draffig, addas i deuluoedd neu grwydro ar hyd y 10k o lwybrau i gerddwyr. Mae digon o ddanteithion yn y caffi hefyd.
Pwmpenni
Mae pwmpenni yn aeddfed ar gyfer eu casglu eleni. Mae gan Fferm Tycoch ger Porthcawl amrywiaeth ardderchog o weithgareddau i bwmpenolegwyr eu mwynhau, neu rhowch gynnig ar PYO Pumpkins Pen-y-bont ar Ogwr yn Blackmill, ond gofalwch rhag y pryf cop anferth. Ewch ati i gasglu!
Neu, gallwch ddatgloi eich creadigrwydd gartref a cherfio pwmpen wych ar gyfer Llwybr Gardd Coetir Bryngarw. Gallant fod yn unrhyw siâp neu faint, yn ddychrynllyd neu'n gyfeillgar, yn syml neu'n gymhleth. Gallwch hyd yn oed eu paentio neu eu haddurno, os yw'n well gennych chi! Bydd y pwmpenni ar gael i'w gweld yng Ngardd y Coetir (rhwng Tŷ Bryngarw a B-Leaf) rhwng 10am a 4pm ddydd Llun 31ain Hydref. Ewch am dro o amgylch Parc Gwledig Bryngarw. Er bod y parc cyfan yn faes chwarae i bawb, bydd y Parth Plant pwrpasol, gyda siglenni, sleidiau ac unedau aml-chwarae, yn cadw'r rhai bach yn ddiddan am oriau!
Straeon arswydus
Mae Tŷ Sant Ioan wedi'i warchod fel adeilad rhestredig Gradd II ac mae wedi'i ddisgrifio fel yr adeilad hynaf y mae modd ei ddefnyddio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â'i harddwch pensaernïol, mae gan y tŷ mawr yma hanes cyfoethog sy'n llawn dirgelwch - beth yw'r cerfiadau rhyfedd yn y cyntedd, ac ydyn nhw'n awgrymu cysylltiad â Marchogion Sant Ioan? Pam roedd cloch hynafol wedi ei chuddio o dan y llawr ac ydi hi'n awgrymu bod y tŷ ar un adeg yn fan lle'r oedd pererinion yn gorffwys? Pa well lleoliad ar gyfer noson o adrodd straeon. Mae'r straeon Calan Gaeaf yng nghwmni David Ambrose yn cael eu hadrodd ar 29ain Hydref yn Nhŷ Sant Ioan ac mae'n ddigwyddiad gyda thocynnau.
I gynulleidfaoedd iau, mae Consuriwr Cwrtycadno yn antur hygyrch i deuluoedd sy'n cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Bryngarw dros Galan Gaeaf eleni. Helfa drysor yn rhannol, a chynhyrchiad theatr yn rhannol, mae'r sioe yn cynnwys BSL integredig a disgrifiad sain byw. Archebwch yma i ymuno â'r stori ryfedd hon - dathliad o lên gwerin Cymru, hud a lledrith a'r newid yn y tymhorau.