Straeon Cyfrinachol Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Chwefror 3, 2021

Sgrolio i lawr Tudalen
Tŷ Sant Ioan

Straeon Cyfrinachol Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Gan fod opsiynau teithio'n parhau i fod yn gyfyngedig, rydyn ni i gyd yn gweld y pleser sydd i'w gael o ddod i adnabod y lleoedd rydyn ni'n eu caru ychydig yn well. Ond rydyn ni hefyd yn siŵr bod rhai straeon cyfrinachol anhygoel o hyd am Sir Pen-y-bont ar Ogwr nad oeddech yn gwybod amdanynt, o drefi canoloesol claddedig i longddrylliadau cudd. Dyma rai o'n ffefrynnau ni...

Tŷ Sant Ioan

Stopiwch wrth Dŷ Sant Ioan, yr adeilad gwarchodedig Gradd II yn Newcastle, a ddisgrifir fel y cartref hynaf y gellir byw ynddo yma yn y sir. Credir bod yr annedd cerrig dros 500 mlwydd oed, ac eto mae wedi parhau mewn cyflwr eithriadol dda ers ei adeiladu yn y Canol Oesoedd. Stopiwch wrth y capsiwl amser atmosfferig yma i ganfod rhai o'i ddirgelion, fel yr hen gerfiadau carreg sy'n un o'r prif gliwiau i orffennol maith y tŷ.

Ewch i flaen y tŷ i weld y placiau sy'n darlunio croes Groegaidd a darllenfwrdd. Mae'r symbolau hyn wedi arwain archaeolegwyr i gredu bod y tŷ wedi'i gysylltu ar un adeg â Marchogion arwrol Sant Ioan. O'r nodweddion pensaernïol arbennig fel y gloch hynafol sydd wedi'i chuddio o dan y llawr, i dai sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel 'yr hosbis', nid yw haneswyr yn nes at ddatgelu ei holl gyfrinachau.

Darganfyddwch fwy o hanes cyfoethog yr ardal yn Eglwys Sant Illtyd gerllaw, safle addoli sanctaidd sydd dros 900 mlwydd oed, a Chastell Newcastle, sydd, ynghyd â Choety ac Ogwr, yn un o dri chastell Normanaidd trawiadol Pen-y-bont ar Ogwr.

Y dref sydd wedi'i chladdu o dan y tywod

Os ydych wedi bod i Sir Pen-y-bont ar Ogwr o'r blaen, mae'n debyg eich bod eisoes yn ymwybodol o ryfeddodau ecolegol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Gan gwmpasu dros 1,300 erw o gynefinoedd gwyllt, mae'r warchodfa arfordirol yn gartref i rai o enghreifftiau gorau'r genedl o fioamrywiaeth naturiol. O'r pys tywodlyd sebon o'r ail dwyni tywod talaf yn Ewrop i degeirianau unigryw na ellir dod o hyd iddynt yn unman arall, mae digon i'w ddarganfod yn Cynffig.  

Fodd bynnag, ychydig o bobl sy'n gwybod am y gyfrinach hanesyddol ddiddorol sydd wedi'i chuddio oddi tanynt; tref goll ers amser maith a gladdwyd o dan y tywod. Gan ddyddio'n ôl i'r oesoedd canol, sefydlwyd pentref Cynffig i ddechrau gan Iarll Caerloyw. Gorfodwyd y gymuned yn y pen draw i wagio'r dref a symud ymhellach i mewn i'r tir, ac ar ôl hynny collwyd y dref i dywod symudol y twyni. Heddiw, dywedir bod posib gweld olion cestyll yn codi drwy'r twyni.

Mari Lwyd, traddodiad Cymreig cwbl unigryw

Ar wahân i'w stori drasig am gariad wedi'i wahardd, mae Llangynwyd hefyd yn un o'r ychydig gymunedau sy'n weddill sy'n parhau â thraddodiad gwerin diddorol y Fari Lwyd, yr orymdaith nos Galan gyda cheffyl pren. Yn cyfieithu i'r Saesneg fel 'The Grey Mare', mae'r Fari Lwyd yn ffigwr mewn clogyn gwyn sydd wedi'i addurno gan rubanau lliwgar a phenglog ceffyl gyda llygaid sy'n goleuo. Mae'r olygfa iasol yma'n gorymdeithio drwy bentrefi, gan stopio mewn cartrefi a thafarndai i chwilio am gwrw a bwyd. Credir mai traddodiad y Fari Lwyd yma yn Llangynwyd yw'r cryfaf a'r un mwyaf di-dor ledled Cymru.

Gwahoddir y gwylwyr i ymuno yn y dathliadau drwy gydganu caneuon Cymraeg a berfformir gan y criw sy'n cadw cwmni i'r Fari Lwyd a'r 'arweinydd', sy'n annog y Fari i ladrata eitemau, chwarae triciau neu hyd yn oed erlid y gwylwyr. Os bydd y Fari Lwyd yn mynd i mewn i'ch cartref, byddwch wedi'ch bendithio â lwc dda am weddill y flwyddyn.  

Gweddillion llongddrylliad Trwyn Sgêr

Ymhell islaw clogwyni garw Trwyn Sgêr mae olion creulon llongddrylliad a ysbrydolodd chwedl lenyddol. O edrych yn ddigon manwl, byddwch yn gweld yr SS Samtampa, a gyfarfu â'i ffawd ar noson stormus yn 1947. Roedd y llong yn hwylio o arfordir Gogledd Dyfnaint ar ei ffordd i Gasnewydd pan gafodd ei gorfodi oddi ar ei llwybr ac ar lannau creigiog Trwyn Sgêr gan wyntoedd pwerus corwynt.

Mewn ymgais epig i achub y 39 o ddynion ar ei bwrdd, ceisiodd 8 o griw bad achub y Mwmbwls gyflawni achubiaeth arwrol, ond yn drasig iawn, colli eu bywydau fu eu hanes. Talwch deyrnged i'r morwyr, ac i hanes arfordirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy gerdded ar hyd llwybr arfordir Cymru o Draeth Sker i Fae Pinc. Sylwch ar y plac bach ar Sker Point, nid nepell o safle'r drasiedi, sy'n coffáu eu bywydau a'u cof.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Gweld holl ysbrydoliaethSaeth Dde

Dilynwch ni ar Instagram @YourPorthcawl