Yng Nghymru, rydyn ni'n dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr bob blwyddyn. Mae'n union fel Dydd Sant Ffolant, felly mae'n cael ei ystyried fel diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru. Meddyliwch am brydau rhamantus, teithiau cerdded hir ar draethau gwag, llwyau caru hardd, tanllwyth o dân glo, syllu ar y sêr ac anrhegion arbennig. Rydyn ni hefyd yn credu ei fod yn sbardun gwych i feddwl ymlaen a chynllunio rhywbeth arbennig ar gyfer 14eg Chwefror, yn enwedig seibiant rhamantus yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr naill ai fis nesaf neu'n nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Cariad yng Nghwm Llynfi
Mae gennym ni hyd yn oed stori garu hynafol sydd cystal â Romeo a Juliet. Yn gyforiog o chwedloniaeth leol ryfeddol, bydd cyfle i ddatgelu stori serch dau gariad â ffawd anffodus. Yn ôl y chwedl, roedd Ann, morwyn leol o'r 18fed ganrif, dan bwysau i briodi i deulu cyfoethog y Maddocks er gwaethaf ei chariad at y bardd a'r toewr gwellt, Will Hopkins. Er iddi gael ei chloi yn ei hystafell wely yn y Maenordy, roedd y cwpl yn parhau i anfon llythyrau serch at ei gilydd, a oedd yn cael eu cuddio mewn hen goeden dderwen wag ar stad Cefn Ydfa. Dilynwch gamau cariadus y ddau drwy fynd am dro o goetiroedd Coedwigaeth Margam filltir tuag at Fynwent Sant Cynwyd, i ddod o hyd i fan gorffwys olaf Ann Maddocks. Cadwch lygad am y groes goffa y tu allan i'r eglwys sydd wedi'i chyflwyno i'w chariad Will Hopkins. Ewch i dafarn chwedlonol yCorner House, sy'n gartref i brydau bwyd blasus ac yn llawn chwedloniaeth leol. Yn gartref i'r bardd a'r toewr gwellt, William Hopkins, ar un adeg, mae'r Corner House yn safle diddorol i haneswyr a phobl hoff o fwyd fel ei gilydd. Beth am flasu'r pasteiod cartref neu'r pysgod wedi'u dal yn ffres wrth sipian cwrw Cymreig gwerth chweil.
Arhoswch am ychydig. I bentref bychan, mae digonedd o ddewis yn Llangynwyd, o fythynnod clyd i iwrts moethus ac ystafelloedd gwely mewn gwesty ym mondo Tafarn o'r 12fed ganrif. Mae Ffermdy Pentre- adeilad rhestredig gradd II sy'n llai na milltir o ganol y pentref hanesyddol - yn un o'r ffermydd hynaf yn y cwm. Mae lleoliad gwledig yr hen dŷ llaeth wedi'i addasu'n llecyn perffaith i ddadflino a mwynhau'r distawrwydd o'ch cwmpas. Wrth ddeffro yn y bore bydd cyfle i archwilio ar unwaith o garreg eich drws gyda llwybrau marchogaeth gwledig yn gyforiog bob ochr o flodau gwyllt, milltiroedd o lwybrau beicio ac erwau o goedwigaeth i'w darganfod. Mae Cwm Tawel Yurts yn hafan glampio cudd sy'n addas ar gyfer pob oedran. Cewch ddadflino gyda chwrw lleol a mentro i'r twba twym ar ôl diwrnod o archwilio, neu fwynhau ychydig o fwyta yn yr awyr iach gyda'r ffwrn pizza henffasiwn. Bydd cyfle i fwynhau harddwch yr awyr wledig serog rownd y tân gwersyll cyn cael noson dda o gwsg yn un o'r iwrts lliwgar sy'n cysgu hyd at bump o wersyllwyr hapus. Old House 1147 yw tafarn hynaf De Cymru sydd wedi cael ei hadfer a'i hailddatblygu'n hardd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi'i hamgylchynu gan ddigonedd o fyd natur ac yn llawn hanes, mae llety newydd i westeion Old House 1147 yn gyfle perffaith i gyplau ddianc i dawelwch cefn gwlad Cymru. Gyda dewis o ystafelloedd sy'n swatio yn y bondo, gyda'r trawstiau pren gwreiddiol yn eu lle, neu yn yr estyniad newydd ac yn agor i fyny i erddi wedi'u tirlunio a golygfeydd ysblennydd o ddyffryn Gadlys, mae pob ystafell unigryw yn addo cyfforddusrwydd llwyr.
Ble bynnag byddwch yn dewis aros, cofiwch gael pryd bwyd arbennig gan fwynhau golygfeydd eang o'r dyffryn gyda phrofiad bwyta The Old House. Mwynhewch bopeth o de prynhawn traddodiadol i brydau fegan arbenigol, pob un wedi'u creu gan ddefnyddio cynnyrch lleol ffres. Dewiswch rhwng Y Gadlys, ardal fwyta cynllun agored gyda golygfeydd eang o'r tiroedd enfawr a'r dyffryn y tu hwnt, neu'r Cwtch, y bwyty to gwellt clyd o'r 12fed ganrif.
Hafan glyd yn Llangrallo
Ewch am ddihangfa gyfrinachol i Goed-y-Mwstwr - Yn swatio'n ddwfn o dan ganopi o goetir, mae'r plasty Fictoraidd hwn yn un o drysorau cudd Pen-y-bont ar Ogwr. Arhoswch dros nos i fwynhau pecyn Serch a Bwyd Dydd Sant Ffolant sy'n cynnwys gwydraid o Kir Royale wrth gyrraedd, cinio 3 chwrs blasus, llety dros nos a brecwast y bore canlynol. Beth gewch chi well nag ymlacio yn y lolfa glyd, gwrando ar y tân coed yn clecian yn y grât a sipian gwydraid o ddiod pefriog.
Nid yw ar agor eto, ond pan fydd, cewch fwynhau twba twym preifat o dan y sêr yn eich ardal eistedd eich hun wrth eich pod yn Bryn Glamping. Mae gan bob pod bopeth y bydd arnoch ei angen drwy gydol eich arhosiad, gan gynnwys pecyn croeso o hanfodion sy'n aros amdanoch chi pan fyddwch chi'n cyrraedd a bydd y tybiau twym wedi'u tanio a byddant yn barod i chi neidio'n syth i mewn ar ôl cyrraedd a chofrestru.
Os gallwch chi ddod allan o'ch cartref clyd am y penwythnos, codwch allan i fwynhau'r coetiroedd bendigedig pan fyddwch yn cerdded taith gylch 2.5 milltir Nant Bryn Glas sy'n dechrau ym mhentref Llangrallo, cartref eglwys Sant Crallo o'r 13eg ganrif, ac yn mynd i'r castell Normanaidd yng Nghoety. I bentref bychan, mae gan Langrallo ddigon o opsiynau ar gyfer cinio haeddiannol ar ôl cerdded, neu beint o flaen tanllwyth o dân.
Serch yn Nhrelales
Treuliwch seibiant byr yn Nhrelales. Hanner ffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl a thaith fer mewn car o'r twyni ym Merthyr Mawr mae Trelales, pentref bychan sy'n sefydlu enw da iddo'i hun fel llecyn bwyd gwych gyda dim llai na phedwar lle arbennig iawn i fwyta. Arhoswch am sbel yn The Great House, gwesty anhygoel mewn lleoliad gwledig trawiadol. Gydag ystafelloedd gwely moethus gyda nwyddau ymolchi Myddfai a chynfasau moethus braf, a lleoliad gwledig sy'n gyfle i westeion ymgolli yn harddwch a golygfeydd Sir Pen-y-bont ar Ogwr, does unlle gwell i ddianc iddo am seibiant.
Yn agos iawn at Drelales, dafliad carreg i ffwrdd, mae bwyty newydd L'Amour - hanfodol os ydych chi'n mynd amdani gyda'r thema rhamantus.
Llefydd i briodi!
Os ydych chi'n cynllunio priodas mae gennym ni leoliadau gwych yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
• Mae Old House 1147 yn cynnig lleoliad priodas heddychlon, gwledig gyda golygfeydd ysblennydd o Gwm Llynfi. Dyma adeilad rhestredig gradd 2 yn llawn hanes sydd wedi'i adnewyddu i gynnig lleoliad hyfryd, modern gyda llety ar ffurf bwthyn.
• Yn swatio wrth droed Cwm Garw hardd, mae gan Court Colman Manor bensaernïaeth Sioraidd anhygoel a 6 erw o erddi preifat wedi'u hamgylchynu gan goetir tawel. Llecyn gwledig, diarffordd ond yn hawdd ei gyrraedd o'r M4.
• Plasty Fictoraidd hyfryd wedi'i leoli ar lethr deiliog, coediog - mae Gwesty Coed y Mwstwr yn Llangrallo yn cynnig pecynnau priodas pwrpasol mewn dwy ystafell foethus, Ystafell Elliot neu Ystafell Hendre. Lleoliad cynnes, croesawgar wedi'i leoli yng nghefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr.
• Lleoliad hyfryd gydag amgylchedd hardd i fwynhau eich diwrnod mawr. Mae'r Great House wedi'i leoli ym mhentref hardd Trelales ac mae hefyd yn cynnig llety moethus i chi a'ch gwesteion.
• Mae Gwesty a Sba Heronston yn cynnig lleoliad hardd ar gyfer eich diwrnod mawr gyda'i Ystafell Ibis Court sydd newydd ei hadnewyddu a'r Ystafell Kingfisher fawr. Wedi'i leoli'n gyfleus ger llawer o lecynnau prydferth Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
• Os ydych chi'n cynllunio priodas theatrig, pa le gwell i gynnal eich brecwast priodas na Phafiliwn y Grand? Lleoliad unigryw ar gyfer eich diwrnod mawr ac wedi'i leoli ar bromenâd eiconig Porthcawl, lleoliad perffaith i'r rhai sydd eisiau lluniau priodas gyda golygfa o'r môr!
• Yn dŷ gwledig hardd wedi'i leoli mewn mwy na 100 o erwau o barcdir hyfryd, mae Tŷ Bryngarw yn cynnig lleoliad priodas hyfryd a bendigedig, wedi'i leoli wrth droed Cwm Garw hardd.


.jpg)











