Mae Maesteg yn dathlu 200 mlynedd yn 2026 gyda chalendr o ddigwyddiadau yn anrhydeddu treftadaeth ddiwydiannol, bywyd diwylliannol ac ysbryd cymunedol y dref. O wyliau pêl-droed a dathliadau gala i sgyrsiau hanes lleol ar ffotograffiaeth, mwyngloddio, celf ac adeiladau rhestredig, mae Maesteg 200 yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr ddarganfod stori'r dref falch hon yng Nghwm Llynfi.
Mae nodi’r pen-blwydd yn edrych yn ôl ar weithfeydd haearn, pyllau glo ac adeiladau hanesyddol yn ogystal â dathlu’r bobl sy’n parhau i wneud y dref yn unigryw: gwirfoddolwyr, perfformwyr, haneswyr, clybiau chwaraeon, ysgolion, busnesau lleol a thrigolion sy’n helpu i adrodd stori Maesteg i genhedlaeth newydd.
Digwyddiadau Maesteg 200 sydd i ddod yn 2026
Dyma rai o'r digwyddiadau sydd i ddod yn 2026 fel rhan o ddathliadau Maesteg 200. Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn sydd i ddod, mae rhaglen ehangach Maesteg 200 eisoes wedi cynnwys arddangosfa hanes yn Neuadd y Dref Maesteg, i nodi sefydlu'r dref ar 24 Mawrth 1826, a gweithgareddau dan arweiniad y gymuned fel perfformiadau ysgol, digwyddiadau chwaraeon a phrosiectau treftadaeth lleol.
Dydd Sul 7 Mehefin: Gŵyl Bêl-droed Merched Maesteg 200 - Parc Lles Caerau
Mae Clwb Pêl-droed Merched Valley Foxes FC yn cynnal gŵyl bêl-droed i ferched yn unig fel rhan o ddathliadau pen-blwydd
Dydd Sadwrn 13eg Mehefin, 10am i 11pm: Gŵyl Gala / Big 200 Maesteg - Diwrnod Amrywiaeth y Dau Ganmlwyddiant yng Nghlwb Chwaraeon Celtaidd Maesteg
Diwrnod llawn stondinau crefftau, adloniant, cerddoriaeth a pherfformiadau, gan gynnwys Aled Williams, Clwb Ukulele Maesteg, Côr Llantastic, dychweliad tîm beicio noddedig o Borthaethwy, a pherfformiadau gyda'r nos gan Alex John, Theresa J ac One Mic Stand.
Dydd Sadwrn 20 Mehefin, 2pm: Ffotograffiaeth ym Maesteg yn ystod yr 20fed Ganrif - Clwb Rygbi Maesteg
Mae Dr Jude Brigley yn archwilio sut y datblygodd ffotograffiaeth ym Maesteg, gan ddefnyddio ffotograffau lleol i ddod â'r stori'n fyw.
Dydd Iau 16 Gorffennaf, 2pm: Christopher Williams, Maesteg Artist – Neuadd y Dref Maesteg
Sgwrs dreftadaeth ar Christopher Williams, yr artist a aned ym Maesteg y gellir gweld ei beintiadau yn Neuadd y Dref. Arweinir y sesiwn gan Stefanie Van Stokkom, Rheolwr Treftadaeth a Datblygu Awen.
Dydd Sadwrn 12 Medi 2026, 2pm: Brenin Banana Maesteg - Clwb Criced Maesteg
Mae David Lewis, Llywydd Cymdeithas Hanesyddol Dyffryn Llynfi, yn datgelu'r cysylltiad rhwng Glofa Garth ac Ynysoedd y Dedwydd.
Dydd Sadwrn 10 Hydref 2026, 2pm: Ein Gorffennol Mwyngloddio - Clwb Criced Maesteg
Mae'r awdur Ian Isaac yn archwilio hanes mwyngloddio'r dyffryn, gan gynnwys ei frwydr, ei fuddugoliaeth a'i drasiedi.
Dydd Iau 19 Tachwedd 2026, 2pm: Y Canwr a'i Ganeuon - Neuadd y Dref Maesteg
Sgwrs am Thomas Llyffnwy Thomas, a aned ym Maesteg ac a adeiladodd yrfa ganu lwyddiannus yn America a Chymru
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr 2026, 2pm: Adeiladau Rhestredig Maesteg - Clwb Criced Maesteg
Mae David Lewis yn arwain sesiwn yn archwilio adeiladau rhestredig Maesteg a'r straeon y tu ôl iddynt.
Am y wybodaeth ddiweddaraf a'r rhestr lawn, ewch i wefan swyddogol Maesteg 200 a chadwch lygad ar Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr am fwy o ddigwyddiadau ledled y fwrdeistref sirol.









