Heb ganfod eitemau.

Seabank Hotel

Yn un o adeiladau amlycaf Porthcawl, mae Gwesty Seabank, sydd â sgôr o 3 seren AA, wedi'i leoli ar bentir sydd ond yn daith gerdded fer o siopau Pafiliwn y Grand a John Street. Gyda golygfeydd ysblennydd o arfordir Môr Hafren a De Cymru o'r bar, y bwyty a'r rhan fwyaf o ystafelloedd gwely, ynghyd ag ystafelloedd en suite, WiFi am ddim a pharcio am ddim, mae Gwesty Seabank yn lle gwych i aros ar gyfer eich egwyl nesaf i Borthcawl.
Mae Porthcawl wedi'i leoli'n ddelfrydol ar gyfer archwilio ardal de Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr a'r cymoedd gydag Abertawe a Chaerdydd ychydig dros 20 munud o yrru. Mae golygfeydd ysblennydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dechrau dim ond 30 munud i'r gogledd o'r dref ad Gŵyr 25 munud y tu hwnt i Abertawe.
Gwobr Da i Fynd
Gwobr Croeso Beicwyr
Gwobr Aur
Gwobr VAQAS
Gwobr Croeso Cerddwyr
Gwobr WATO
NODER: Cynhyrchir y wybodaeth uchod gan ddata trydydd parti a ddarperir gan berchennog y busnes.

Gweld ar y map

Gweithgareddau ac atyniadau gerllaw

Saeth dde