Porthcawl - Newton Beach
Newton yw'r traeth mwyaf dwyreiniol ym Mhorthcawl ac mae'n daith gerdded ddeng munud o bentref prydferth Newton. Mae'r traeth yn dywodlyd ac yn greigiog ac yn boblogaidd gyda bordhwylwyr, jet-sgiwyr a defnyddwyr cychod modur. Mae llithrfa sy'n cael ei defnyddio gan y clwb cychod lleol. Gyda milltiroedd o dywod (er eu bod yn creigiog iawn mewn rhannau), gallwch gerdded i geg yr afon yn Aberogwr; mae nesaf at Dwyni Newton a Merthyr Mawr.
Mae'r cyfleusterau agosaf yng Nghanolfan Gwyliau Bae Trecco, sydd ychydig funudau i ffwrdd ar droed. Parcio cyfyngedig - dim maes parcio dynodedig. Caniateir cŵn.
NODER: Cynhyrchir y wybodaeth uchod gan ddata trydydd parti a ddarperir gan berchennog y busnes.