Olivia Guest House
Mae Olivia House yn dŷ tref hyfryd a llawn steil yng nghanol tref glan môr Porthcawl sy'n cynnig gwesty steil bwtîc newydd ei adnewyddu gydag ystafelloedd ensuite i'r gwesteion mwyaf chwaethus.
Mae Olivia House yn 50 metr o lan y môr, bariau a bwytai, ac yn daith gerdded o 10 munud i barc difyrrwch Coney Beach. Mae hefyd yn agos at y Royal Porthcawl a chlybiau golff eraill. Cynigia Porthcawl hefyd amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys syrffio a chwaraeon dŵr eraill. Mae gwasanaeth cwrdd a chyfarch am ddim ar gael yn y gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd lleol, ac mae parcio valet am ddim ar gael i westeion hefyd.
Mae gan y llety 5 ystafell, sy'n darparu gwely maint brenin, gwely dwbl a dau wely sengl, a'r cyfan gyda dillad gwely newydd. Darperir sychwyr gwallt yn ogystal â setiau teledu, chwaraewyr DVD/CD ym mhob ystafell er mwyn i chi ymlacio a mwynhau. Mae brecwast wedi'i goginio llawn yn cael ei gynnwys yn y pris yn ogystal â chyfleusterau gwneud te/coffi, dŵr Cymreig a bisgedi am ddim.
NODER: Cynhyrchir y wybodaeth uchod gan ddata trydydd parti a ddarperir gan berchennog y busnes.