Porthcawl Museum
Mae gan yr amgueddfa lawer iawn o gasgliadau ar gael, gan gynnwys y 49fed Catrawd Ragchwilio a ffurfiwyd yn 1941, Trychineb Samtampa 1947, Rheilffyrdd, Arddangosfa'r Rhyfel Mawr, canfyddiadau archeolegol a chofnodion o eglwysi lleol.
Pyle Garden Village
Mae Pentref Gardd y Pîl yn gyrchfan i arddwyr a rhai nad ydynt yn arddwyr fel ei gilydd.
Rest Bay Watersports Centre
Mae'r ganolfan yn edrych dros ddyfroedd prydferth, glân Rest Bay, traeth Baner Las, ac mae Porthcawl yn un o gyrchfannau syrffio sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain. Efallai mai'r rheswm am hynny yw ei bod yn daith tair awr gyfleus o Lundain. Mae hynny'n golygu mai hwn yw'r gyrchfan chwaraeon dŵr agosaf a mwyaf cyson i brifddinas y DU, ac mae'n llai nag awr o Gaerdydd.
Slade Farm Safari
Yma yn Slade, mae gennym amrywiaeth o deithiau at ddant pawb. Dim ond 40 munud o Gaerdydd yw ein Teithiau Fferm a Theithiau Gardd. Mae ein teithiau yn antur fawr i gefn gwlad Cymru, gyda golygfeydd ysblennydd o Fae Dwnrhefn.
Spirit of Llynfi Woodland
Lleolir Coetir ysbryd Llynfi ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi uchaf, naw milltir i'r gogledd o pen-y-bont ar Ogwr a phum milltir i'r De-ddwyrain o Barc Coedwig Afan.
St John's House
Diogelir Tŷ Sant Ioan fel adeilad rhestredig gradd II, a ddisgrifir fel yr adeilad habadwy hynaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.