Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n dref farchnad ers yr 16eg ganrif, gymysgedd fywiog o siopau annibynnol, caffis ac enwau'r stryd fawr. Ewch i chwilio am hanes y dref. Archwiliwch Dŷ Sant Ioan - yr adeilad byw hynaf yn y dref. Dringwch i fyny i'r Castellnewydd trawiadol, sy'n cynnig golygfeydd gwych o'r dref. Mwynhewch weithgareddau a digwyddiadau celfyddydol yn Nhŷ Carnegie.
Yn y Farchnad Dan Do draddodiadol byddwch yn dod o hyd i fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd. Ewch i Ganolfan Siopa Rhiw a Chanolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr am gymysgedd o enwau cyfarwydd y stryd fawr a manwerthwyr annibynnol.