Dyma'r lle ar gyfer gwyliau cerdded a beicio bythgofiadwy. Mae'r golygfeydd o gymoedd Afon Llynfi, Garw ac Ogwr yn drawiadol, a Pharc Gwledig Bryngarw yw'r man cychwyn delfrydol i archwilio ein cymoedd.
Yn llai adnabyddus na'n rhanbarth arfordirol, mae'r mynyddoedd yn cynnig golygfeydd gwych o lwybrau'r cefnffyrdd. Ar hyd gwaelod y dyffryn, mae'r hen reilffyrdd a phyllau glo wedi cael eu trawsnewid yn llwybrau di-draffig a mannau llawn natur.