Walk - Kenfig Nature Reserve
Treuliwch y diwrnod yn archwilio llwybrau tywod y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Cynffig. Mae'n cael ei chydnabod fel un o brif warchodfeydd twyni tywod gweithredol Cymru a chofiwch am eich sbienddrych er mwyn cael gwylio adar rhydio wrth i chi gerdded y llwybr troellog drwy'r dirwedd wyllt. Bydd cyfle i weld y Cwtiad Aur, yr Hwyaden Gopog a'r Hwyaden Lwyd yn glanio yn nyfroedd Pwll Cynffig, yr ail lyn dŵr croyw naturiol mwyaf yn Ne Cymru. Dilynwch daith gerdded gylchol traeth Sger am daith hirach sy'n arwain yn ôl i mewn am y tir tuag at ddolydd a choetiroedd y warchodfa lle mae cyfle i weld gweision y neidr a phryfed yn hofran ymhlith blodau gwyllt.
Anhawster - hawdd
Pellter - amrywiol