Heb ganfod eitemau.

Cymorth i Fusnesau Canol Trefi

Yma i helpu ein prif strydoedd i ffynnu

Sgrolio i lawr Tudalen
Pen-Y-bont

Cymorth i Fusnesau Canol Trefi

Yma i helpu ein prif strydoedd i ffynnu

Canol Trefi - Pobl, Cymuned, Perthyn

Mae'r cyngor wedi cynhyrchu ffilm fer sy'n amlygu'r rôl y mae busnesau annibynnol yn ei chwarae yng nghanol trefi lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg.

Mae ein busnesau annibynnol yn cynnig dewis ac amrywiaeth gwych o gynhyrchion i gwsmeriaid, yn ogystal â gwasanaeth, traddodiad ac arloesedd. Mae busnesau ym mhob un o'n trefi yn creu swyddi ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r economi leol.

Gallwch weld y ffilm drwy glicio ar y ddolen isod:

Pen-Y-bont

Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar brif linell trenau yng nghalon y Fwrdeistref Sirol. Adlewyrchir ei hanes fel tref farchnad sirol mewn nifer o adeiladau allweddol o arwyddocâd pensaernïol, a restrir o fewn yr ardal gadwraeth.


Mae arlwy siopa canol y dref yn cynnig cymysgedd iach o enwau cyfarwydd y stryd fawr, megis Burtons, Dorothy Perkins, New Look, B&M Bargains a Home Bargais, ochr yn ochr â manwerthwyr annibynnol a gwasanaethau allweddol fel banciau, cymdeithasau adeiladu, optegwyr, deintyddion a chyfreithwyr. Mae prif strydoedd canol y dref i gerddwyr yn unig rhwng 10am a 6pm, ac mae'r dref yn brolio dwy ganolfan siopa dan do yn ogystal â Marchnad Dan Do.


Oddi ar Caroline Street, sef un o'r prif strydoedd i gerddwyr, mae Canolfan Siopa Rhiw, gyda WHSmith, Boots a manwerthwyr annibynnol o dan yr un to. Eir at y Farchnad Dan Do, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, trwy'r ganolfan siopa hon. Mae'r farchnad draddodiadol hon yn gartref i nifer o fusnesau teuluol sydd wedi ennill eu plwyf ac i fasnachwyr newydd.


Yng Nghanolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr ar Cheapside, fe ddewch chi o hyd i lawer o frandiau'r stryd fawr gan gynnwys Peacocks, Iceland, Poundworld a Farmfoods, ac mae siop Wilko fawr gerllaw.


Yng nghanol y dref mae dau faes parcio aml-lawr: y Rhiw a Bracla Un, a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae yna hefyd nifer o feysydd parcio cyhoeddus sy'n cael eu rhedeg yn breifat o amgylch y dref.


Mae tair archfarchnad, Tesco, Asda ac Aldi, ar gyrion canol y dref, o fewn pellter cerdded i brif orsaf fysiau'r Fwrdeistref Sirol, ar Stryd y farchnad.

Porthcawl

Mae Porthcawl yn dref glan môr hardd sydd 19 milltir i gyfeiriad y gorllewin o Gaerdydd. Gerllaw canol y dref mae harbwr, traeth a pharc gwyliau. O fewn hanner milltir i'r stryd fawr mae un o draethau syrffio gorau Cymru, Rest Bay, gyda'i Chanolfan Chwaraeon Dŵr newydd.


Mae mwyafrif y siopau ar y strydoedd ychydig y tu ôl i'r Esplanade ar lan y môr. Mae Well Street yn cynnwys sawl manwerthwr annibynnol, siop goffi a bwyty pysgod a sglodion. Yn Stryd John, sydd i gerddwyr yn unig rhwng 11am a 6pm, byddwch yn dod o hyd i fusnesau annibynnol ochr yn ochr â brandiau'r stryd fawr, megis B&M Bargains, Superdrug, Poundland a Costa Coffee. Mae archfarchnad Co-operative fawr ar Lias Road gerllaw.


Taith gerdded fer i ffwrdd y mae gorsaf yr RNLI a'r harbwr, lle mae Adeilad Jennings yn cynnwys dewis o siopau coffi a bwytai.


Mae dau faes parcio yng nghanol y dref, a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae maes parcio arhosiad hir Hillsboro Place rhwng yr harbwr a'r brif ardal siopa, ac mae'r maes parcio arhosiad byr gerllaw Stryd John.

Maesteg

Mae canol tref Maesteg yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol yng Nghymoedd De Cymru. Mae'n cynnig profiad siopa traddodiadol, cyfeillgar gydag ymdeimlad cryf o gymuned. Ar Commercial Street a Talbot Street, ceir cymysgedd o siopau annibynnol, busnesau sector gwasanaeth a manwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys Peacocks, New Look a Superdrug.


Yn Heol Llynfi ceir maes parcio aml-lawr di-dâl a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae nifer o fanwerthwyr wedi'u gosod o amgylch y maes parcio hwn, gan gynnwys Wilko, Aldi, Argos ac Iceland.  


Wrth galon canol y dref, ochr yn ochr â Neuadd hanesyddol y Dref, mae'r orsaf fysiau a'r Farchnad Awyr Agored. Mae'r unedau manwerthu yn y Farchnad Awyr Agored, a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'u clystyru o amgylch y sgwâr marchnad newydd.


Mae Neuadd y Dref ar gau ar gyfer prosiect adnewyddu £8,000,000 mawr yn ystod 2020 a 2021. Ar ôl iddi gael ei chwblhau, caiff y cyfleuster ei weithredu gan Ymddiriedolaeth Awen fel lleoliad adloniant byw, llyfrgell a siop goffi.


Mae dwy archfarchnad, Tesco ac Asda, ar gyrion canol y dref.


I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd busnes yng nghanol ein trefi, cysylltwch ag Andrew Highway, y Rheolwr Canol Trefi.

01656 815225
andrew.highway@bridgend.gov.uk

Heb ganfod eitemau.

Lawrlwythiadau

Cymdeithasol

Ysbrydoliaeth

Heb ganfod eitemau.

Gweld ar y map

Trefi yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr