Heb ganfod eitemau.

Nyth Bran

Mae Nyth Brân, a agorwyd fel bwthyn gwyliau ar ôl ei adnewyddu'n llawn yn y gwanwyn 2016, yn fwthyn carreg hyfryd ond traddodiadol, dim ond ychydig funudau ar droed o draeth tywodlyd hardd Bae Dwnrhefn, ym Mro Morgannwg sydd heb ei ddifetha. Mewn lleoliad rhwng y môr a chefn gwlad agored, mae'n elwa ar dafarn draddodiadol a bwyty cain, y ddau o fewn 50 metr. Mae llwybr arfordir gogoneddus yr Arfordir Treftadaeth o fewn 200m, ac mae tref gyfagos Pen-y-bont ar Ogwr yn siwrnai o 10 munud yn y car, neu'n daith hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhedeg fesul awr o'r tu allan i'r bwthyn. Mae Caerdydd ac Abertawe o fewn 30 munud yn y car, o fynd ar yr M4 sydd tua 15 munud i ffwrdd. Adeiladwyd Nyth Brân yn wreiddiol dros 200 o flynyddoedd yn ôl, ac roedd yn rhan o ffermdy mwy o faint. Cafodd adain y pen ei throi'n fwthyn dwy ystafell wely llai o faint. Mae ei waliau carreg naturiol yn sicrhau ei fod yn lled oer yn yr haf ac yn gysurus yn y gaeaf; mae'r stof llosgi coed yn ychwanegu at hyn. Mae WiFi BT Infinity ar gael trwy'r amser. Mae'r ystafell fwyta fawr ar wahân yn berffaith ar gyfer ciniawau teuluol a hir. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gan westeion sy'n chwilio am egwyl wirioneddol ymlaciol fwyta allan. Mae'r bwyty gwych Frolics (http://www.frolicsrestaurant.co.uk/) yn gweini prydau Eidalaidd gwreiddiol blasus wedi'u paratoi gan y cogydd Franco o Sisili ac sy'n enwog yn lleol. Mae gan dafarn Golden Cups far clyd a bwyty traddodiadol, ynghyd ag awyrgylch gardd gwrw haf bywiog. Mae'r ddau o fewn 50 metr o daith gerdded o'r bwthyn. Ymhellach i ffwrdd, ond o fewn pellter cerdded, mae'r Franklins Cafe Bar, The Pelican, The Farmers Arms, The Watermill a'r tŷ coffi Cobbles gwych yn Aberogwr sy'n cynnig un o'r brecwastau calonnog a'r te prynhawn gorau yn ne Cymru.
Y tu allan, mae gan y bwthyn deras bach i eistedd a gwylio'r haul yn mynd i lawr wrth fwrw'ch blinder ar ôl diwrnod caled ar y traeth neu ar ôl taith gerdded yng nghefn gwlad, gan fod digon ohonynt. Mae Llwybr yr Arfordir Treftadaeth yn ffurfio rhan o lwybr arfordir Cymru gyfan; mae traethau Nash Point (a'i goleudy), Yr As Fawr a'r Wig o fewn cyrraedd hwylus i'r dwyrain ac Aberogwr i'r gorllewin. Ymhellach ar hyd yr arfordir ac o fewn taith car fer i ffwrdd, mae cyrchfannau prysur Porthcawl ac Ynys y Barri sy'n enwog yn sgil 'Gavin and Stacey'! Ymhellach i'r tir, mae tref farchnad swynol y Bont-faen sy'n brolio amrywiaeth o siopau bwtîc a gemau cudd. Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden o fewn ychydig funudau yn y car, gan gynnwys golff yng Nghlwb Golff Southerndown, reidio yn Aberogwr, syrffio ar un o'r traethau niferus neu bysgota mewn nifer o fannau cynhyrchiol ar hyd yr arfordir. I'r haneswyr, mae'r cyfle i archwilio amrywiaeth o adfeilion a chestyll hynafol ar draws De Cymru yn rhy dda i'w golli. Ac i'r rhai sydd angen therapi siopa, mae'r McArthur Glen Designer Outlet dim ond 15 munud i ffwrdd ar Gyffordd 36 yr M4.
Gwobr Da i Fynd
Gwobr Croeso Beicwyr
Gwobr Aur
Gwobr VAQAS
Gwobr Croeso Cerddwyr
Gwobr WATO
NODER: Cynhyrchir y wybodaeth uchod gan ddata trydydd parti a ddarperir gan berchennog y busnes.

Gweld ar y map

Gweithgareddau ac atyniadau gerllaw

Saeth dde