Wild Spirit Wales
Mae Wild Spirit yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau crefft y gwyllt a’r coed, sy'n amrywio o gyflwyniad 1 diwrnod i gwrs goroesi mwy heriol am 4 diwrnod yn rhoi sylw i grefft y gwyllt. Rydym yn cynnig cyrsiau 1 diwrnod mewn Chwilio am fwyd gwyllt a Chwilio am fwyd ar hyd yr arfordir. Dyma leoliad eithriadol hardd, mewn 70 erw o goetir ar Ystâd Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dafliad carreg o un o arfordiroedd mwyaf trawiadol De Cymru. Mae ein cyrsiau’n cynnwys ystod eang o sgiliau a thechnegau rhyfeddol sy'n sicr o ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli.