Porthcawl 10K 2027
Mae Ras 10K Porthcawl, a drefnir gan Run4Wales, yn dychwelyd ddydd Sul 27 Mehefin 2027, gan ddod â dathliad haf o redeg i un o gyrchfannau glan môr mwyaf poblogaidd De Cymru. P'un a ydych chi'n mynd ar drywydd eich gorau personol, yn ymgymryd â'ch 10K cyntaf neu'n chwilio am her newydd, mae'n gyfle gwych i fod yn egnïol a phrofi'r gorau o arfordir Cymru.
Mae'r cwrs ffordd sydd wedi'i gau'n llwyr yn arddangos rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Porthcawl a golygfeydd glan môr ysblennydd, gyda rhedwyr yn pasio Bae Rest, Bae Trecco a Bae Coney, ochr yn ochr â chanol y dref hardd, y Grand Pavilion hanesyddol a Goleudy eiconig Porthcawl. Gan ddechrau a gorffen ar Esplanâd Porthcawl, mae'r digwyddiad yn addo awyrgylch gwych, gyda cherddoriaeth fyw a digon o gefnogaeth ar hyd y ffordd.
Mae rhywbeth i’r teulu cyfan hefyd, gyda rhaglen o rasys iau gan gynnwys Ras Hwyl, Ras Blant Bach a digwyddiad Herwyr y Dyfodol. Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer 2027, felly sicrhewch eich lle ac ymunwch â miloedd o redwyr am ddathliad haf gwych ar arfordir De Cymru!

-p-500.jpg)






