Bryngarw Country Park - Autumn Photography Workshop
Mae Nick Jenkins yn ffotograffydd proffesiynol cymwysedig gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Mae'n rhedeg gweithdai i grwpiau neu i unigolion, yn gwerthu ei waith, yn cynhyrchu calendrau o Dde Cymru ac yn angerddol am yr hyn mae'n ei wneud. Yn wir, mae hyd yn oed wedi tynnu llun i Barc Gwledig Bryngarw!
Bydd Nick yn egluro sut mae'r camera'n gweithio a sut i gyfansoddi lluniau natur gwych yn yr Hydref.
£36 y pen
Archebu yn hanfodol
Canllaw oed: 12 oed+