Heb ganfod eitemau.

Ymwelwyr yn cael croeso 'nôl i Farina Porthcawl

Ymwelwyr yn cael croeso 'nôl i Farina Porthcawl

Sgrolio i lawr Tudalen
Mehefin 11, 2020

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y gall llety gwyliau hunanarlwyol, hunangynhwysol, ailagor yng Nghymru o 11 Gorffennaf, byddwn yn gallu croesawu deiliaid angorfa sydd â'u cyfleusterau ymolchi a bwyta eu hunain ar fwrdd y llong i aros dros nos ym Marina Porthcawl.

Sylwch y bydd ein cyfleusterau cawod allan o ddefnydd, ac mae gennym fesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith i ddiogelu diogelwch holl ddefnyddwyr y marina a'n staff.

Os ydych yn bwriadu aros ar eich cwch dros nos, nodwch y gallech ond ymweld â Marina Porthcawl ar eich cwch gyda'ch aelwyd estynedig yn unol â'r canllawiau swyddogol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost neu ffoniwch 01656 815715.

Yn ôl i Farina Porthcawl