Sgrolio i lawr Tudalen

Canllawiau Cyllido Mannau Lleol ar gyfer Natur wedi'u Cyhoeddi - Cyflwynwch Eich Syniadau ar gyfer Natur

15 Medi, 2025

Yn ddiweddar, mae Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur ar gyfer 2025-2027. Mae cynlluniau cyfredol yn cynnwys sawl cynllun gwella cynefinoedd, creu perllannau a phrosiectau gerddi cymunedol, yn ogystal â darpariaeth offer a hyfforddiant!

Sefydlwyd cronfa Mannau Lleol dros Natur gyda'r bwriad o helpu natur ar garreg eich drws. Mae Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau sicrhau bod gan holl drigolion Pen-y-bont ar Ogwr fynediad at natur ger lle maent yn byw, yn gweithio neu'n astudio.

Os oes gennych chi, neu'ch grŵp cymunedol, gynnig am gyllid - rhowch wybod i ni yn biodiversity@bridgend.gov.uk.

*Mae'r ddelwedd isod o'r cynllun gwella cynefinoedd gardd goedwig yn y Pîl, a ariannwyd gan rownd ddiwethaf cyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur.

Yn ôl i Bartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr