Os yw dyfodiad y gwanwyn yn gwneud i chi ddyheu am amser yn yr awyr agored, mae gan Heol Fawr Morgannwg ddigonedd o lwybrau i'w harchwilio wrth fwynhau'r heulwen! Yn ymestyn dros bum sir o dirweddau hardd yn Ne Cymru, mae Heol Fawr Morgannwg yn rhwydwaith o lwybrau marchogaeth a llwybrau beicio, sy'n cynnig siwrneiau sy'n gyfoeth o hanes, harddwch naturiol, a swyn Cymreig. Os ydych chi'n camu i'r cyfrwy neu'n archwilio ar droed, mae pob llwybr yn cynnig persbectif unigryw ar y rhanbarth trawiadol yma. Dyma rai llwybrau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr i wneud eich gwanwyn chi'n un arbennig:
Cyfle i fwynhau golygfeydd a fydd yn eich syfrdanu yn Werfa
Llwybr byr ond serth - dywedir mai Werfa yw'r pwynt uchaf yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn eistedd ar fryn Mynydd Llangeinwyr. Mae'r dod i lawr yn werth chweil gan eich bod yn cael eich cyfarch gan olygfeydd ysgubol o'r cefn gwlad o'ch cwmpas. Yr ardal hon hefyd a ysbrydolodd yr emyn Cymraeg enwog, Calon Lân, a gyfansoddwyd gan Daniel James!
Mentrwch ar draws dau gwm o Garw i Felin Ifan Ddu
Yn cynnwys dau o'r tri chwm yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, mwynhewch siwrnai o olygfeydd o Bont-y-rhyl yng Nghwm Garw i Felin Ifan Ddu wrth droed Cwm Ogwr, gyda llwybr sy'n arwain ar hyd glannau afonydd llawn byd natur. Mae'r llwybr hwn yn cynnig cymysgedd o harddwch naturiol a threftadaeth ddiwydiannol, gyda gweddillion hen weithrediadau mwyngloddio'n britho'r dirwedd. Cadwch lygad am fywyd gwyllt, o adar ysglyfaethus fry yn yr awyr i greaduriaid y coetir yn dianc dan eich traed.
Archwilio Merthyr Mawr hudolus
Gwarchodfa natur eang gyda digon i'w archwilio - mae Cwninger Merthyr Mawr yn berl arfordirol o goetir hudolus, twyni trawiadol a thraethau tywodlyd. Mae'r golygfeydd prydferth yn gefndir perffaith i ymwelwyr archwilio'r ecosystemau amrywiol sy'n unigryw i'r llwybr hwn. Peidiwch â cholli twyn eiconig y Big Dipper, ffurfiant tywod tal sy'n cynnig golygfeydd hyfryd o'r arfordir.
Mwynhewch olygfeydd y cymoedd o Gwm Du i'r Garw
Mwynhewch arogleuon a golygfeydd antur goetir gyda'r llwybr hwn sy'n mynd â chi o Gwm Llynfi hardd, dros fryniau tonnog a thrwy goedwigoedd hudolus i mewn i Gwm Garw. Gyda dewis o fannau cychwyn, mae'r llwybr yn cynnwys 9km o olygfeydd prydferth Sir Pen-y-bont ar Ogwr bob ffordd.
Cyfle i ymgolli yn y tirweddau amrywiol o Lynogwr i Donypandy
I'r rhai sydd eisiau cerdded yn bell, mae'r llwybr hir yma'n teithio o Sir Pen-y-bont ar Ogwr i sir gyfagos Rhondda Cynon Taf, gan ddechrau ym mhentref heddychlon Glyn Ogwr, gyda golygfeydd anhygoel ac Eglwys hanesyddol Sant Tyfodwg. Mae'r llwybr yn cynnwys tirweddau amrywiol fel afon, mynyddoedd a choedwig cyn gorffen yng Nghlydach, Tonypandy mewn lleoliad hyfryd ar lan llyn.
Mae Heol Fawr Morgannwg yn rhwydwaith aml-ddefnyddiwr o lwybrau sy'n eich galluogi chi i fwynhau harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Sir Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Os ydych chi'n chwilio am encil heddychlon ym myd natur neu antur wefreiddiol trwy dirweddau amrywiol, mae llwybrau Heol Fawr Morgannwg yn cynnig cyfleoedd gwych i ddarganfod rhyfeddodau'r rhanbarth hudolus yma ar gefn ceffyl, ar feic neu ar droed!