Datblygwyd Maesteg, sydd yng nghwm prydferth Llynfi, yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mwynhewch olygfeydd panoramig o deithiau cerdded Cwm Llynfi sy'n dechrau yn yr hen dref lofaol hon ac ymlaciwch yng Nghoeir delfrydol Ysbryd y Llynfi ar safle hen lofa. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld yn 2021, pan fydd Neuadd y Dref sydd wedi'i hailddatblygu yn agor fel canolfan ddiwylliannol.
Mae'r profiad siopa fan hyn yn un cyfeillgar. Profwch yr ymdeimlad cryf o gymuned yng nghanol y dref, sy'n gartref i frandiau'r stryd fawr, siopau annibynnol a marchnad awyr agored sy'n clystyru o amgylch sgwâr marchnad newydd.