Porthcawl - Sandy Bay
Mae Sandy Bay - sy'n adnabyddus yn lleol fel Traeth Coney hefyd – yn eistedd wrth ymyl Promenâd dwyreiniol Porthcawl. Yn filltir o hyd bron, mae'r traeth yn boblogaidd gyda syrffwyr, ymdrochwyr a theuluoedd gyda digonedd o atyniadau i blant. Mae'n draeth llydan, tywodlyd yn bennaf, sy'n llecyn poblogaidd ar gyfer nofio yn ystod misoedd yr haf a syrffio drwy'r flwyddyn. Mae pentir bach tuag at ochr ddwyreiniol y traeth lle byddwch yn dod o hyd i byllau creigiog y gellir eu harchwilio adeg y trai.
Mae'r traeth yn daith gerdded fer o fwytai a difyrion glan môr traddodiadol Traeth Coney yn ogystal ag adeilad Jennings a adnewyddwyd yn ddiweddar, sy'n gartref i nifer o sefydliadau bwyd a diod. Mae digonedd o le parcio ym maes parcio Salt Lake gerllaw lle gallwch hefyd gael mynediad i Farina Porthcawl a'r goleudy prydferth ymhen ychydig funudau ar hyd y prom.
Ychydig ymhellach ymlaen i'r gorllewin mae traeth creigiog y dref a llwybr cwbl hygyrch ar hyd yr Esplanade gyda'i fwytai a'i siopau niferus.
Mae achubwyr bywyd yr RNLI yn patrolio'r traeth o ddiwedd Ebrill tan ddiwedd mis Medi ac mae croeso i gŵn ymarfer ar y traeth yn ystod y tymor tawel o 1 Hydref hyd 30 Ebrill.
NODER: Cynhyrchir y wybodaeth uchod gan ddata trydydd parti a ddarperir gan berchennog y busnes.